Brwydr Bryn Glas
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 22 Mehefin 1402 |
Rhan o | gwrthryfel Owain Glyn Dŵr |
Lleoliad | Pilalau |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Roedd Brwydr Bryn Glas (SO 253682), (hefyd Brwydr Pilleth mewn cofnodion Saesneg, neu weithiau Frwydr Pyllalai[1]) yn frwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyn Dŵr a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson dan Syr Edmund Mortimer. Cafodd ei ymladd ar 22 Mehefin 1402, ger pentref Pilalau, ar odre gogleddol Fforest Clud, ger Llanandras a'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys.
Y cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd gwrthryfel Owain Glyn Dŵr wedi dechrau yn 1400. Roedd Harri IV o Loegr wedi penodi Syr Edmund Mortimer yn brif swyddog iddo yn y Mers. Ewythr oedd yr Edmund Mortimer hwnnw i Edmund de Mortimer, 5ed Iarll y Mers a oedd yn mwynhau gwell hawl i goron Lloegr na'r brenin ei hun, yn ddamcaniaethol, ond hyd hynny cefnogai Harri. Ffactor arall yn ei deyrngarwch oedd y ffaith fod ganddo feddiannau helaeth yng Nghymru ac yn y Mers a bu iddo ddioddef eisoes o weithgareddau Glyn Dŵr; felly nid oedd yn awyddus i weld y gwrthryfel yn parhau.
Y frwydr
[golygu | golygu cod]Roedd rhwng 2,000 a 4,000 o ddynion ym myddin Lloegr (fel yng nghofnodion y rhan fwyaf o frwydrau’r Oesoedd Canol, mae’r niferoedd yn amrywio). Eu harweinydd oedd Syr Edmund Mortimer ac roedd ganddo fintai o saethwyr Cymreig hefyd. Roedd cyfanswm o rhwng 800 ac 1,100 yn lluoedd y Cymry o dan awdurdod Rhys Gethin, sef un o swyddogion mwyaf talentog a phrofiadol Owain Glyndwr (a laddwyd yn ddiweddarach yn yr ymosodiad ar gastell Grysmwnt yn 1405). Doedd dim llawer o offer gan y Cymry o’u cymharu â’r Saeson ond roedd ganddyn nhw’r fantais o’r tir uwch. Er bod llai ohonyn nhw, roedd lluoedd Glyn Dŵr wedi’u rhannu. Roedd rhan o’i fyddin, gan gynnwys llawer o saethwyr â’u bwâu hir pwerus, wedi cymryd eu lle ar lethrau’r bryn. Roedd y gweddill yn cuddio mewn dyffryn ar ymyl y bryn, o’r golwg yn y dail trwchus. Cafodd dynion Mortimer eu cymell i symud ymlaen yn eu trefniant i fyny’r llethr ac roedden nhw o fewn cyrraedd i’r saethwyr Cymreig. Wrth i ŵyr traed Mortimer geisio agosáu at saethwyr Glyn Dŵr, daeth y Cymry i’r golwg o’r dyffryn ac ymosododd y rhai a oedd ar y bryn. Gan eu bod yn saethu i lawr ar filwyr Mortimer roedd yr ergydion cymaint mwy grymus. Syrthiodd nifer o'r Saeson cyn dod yn agos i rengoedd y Cymry a medru ymladd llaw wrth law. Ar adeg hollbwysig yn y frwydr, enciliodd llawer o’r saethwyr Cymreig ym myddin Mortimer a throi eu bwâu ar eu cyn-gymheiriaid. Roedd lluoedd Mortimer wedi drysu ac fe wnaethon nhw ffoi. Roedd Cymry lleol o swydd Henffordd yn rhengoedd Mortimer, yn erbyn eu hewyllys, a phan welsant sut oedd y trai yn troi aethant drosodd i Glyn Dŵr (mae rhai haneswyr yn meddwl fod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw) ac ymosod ar y milwyr Seisnig. Amcangyfrifir bod 1,000 o’r Saeson wedi’u lladd. Trechwyd byddin Mortimer yn llwyr a chollodd nifer o filwyr cyffredin ac efallai cannoedd o farchogion ar eu meirch trymion. Daliwyd Mortimer ei hun ac yn nes ymlaen priododd Catrin, merch Owain, a sefyll gyda'r arweinydd Cymreig yn erbyn brenin Lloegr.
Mae adroddiadau am y frwydr yn honni bod menywod a oedd yn dilyn y gwersyll wedi anffurfio organau rhyw cyrff meirw’r Saeson. Roedd hynny i ddial am weithredoedd byddinoedd Harri IV y flwyddyn flaenorol a oedd yn cynnwys achosion o dreisio a chreulondeb. Mae’n ddigon posibl i’r stori gael ei chreu gan senedd Loegr er mwyn portreadu’r Cymry fel barbariaid. Y frwydr hon yw un o fuddugoliaethau mwyaf y Cymry yn erbyn byddin Lloegr hyd heddiw
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
- R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)