Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Brwydr Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Amwythig
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Gorffennaf 1403 Edit this on Wikidata
Rhan ogwrthryfel Owain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
LleoliadAmwythig Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Amwythig 1403

Ymladdwyd Brwydr Amwythig ar 21 Gorffennaf 1403, gerllaw Amwythig yn Lloegr, rhwng byddin Harri IV, brenin Lloegr a byddin Henry 'Hotspur' Percy, mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, oedd wedi gwrthryfela yn erbyn Harri IV.

Roedd Hotspur wedi dod i gytundeb ag Owain Glyn Dŵr, ond nid oedd Owain a'i fyddin yn bresennol yn y frwydr, er bod rhai o'i gefnogwyr yno. Roedd y frwydr i weld yn dechrau troi o blaid Hotspur, ond agorodd ef ddarn gwyneb ei helm, un ai am ei fod yn rhy boeth neu i weld yn well. Tarawyd ef yn ei wyneb gan saeth, a'i ladd yn y fan. Heb ei harweinydd, ffôdd ei fyddin.