Biysk
Gwedd
Stryd Sovetskaya yng nghanol Biysk. | |
Math | anheddiad dynol, tref/dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 183,852 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Q29865032 |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Amser Krasnoyarsk |
Daearyddiaeth | |
Sir | Biysk Urban Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 291.67 km² |
Uwch y môr | 180 metr |
Cyfesurynnau | 52.52°N 85.17°E |
Cod post | 659300 |
Pennaeth y Llywodraeth | Q29865032 |
Dinas yn Crai Altai, Rwsia, yw Biysk (Rwseg: Бийск), a leolir ar lan Afon Biya yn agos i'w chymer yn Afon Katun. Biysk yw ail ddinas fwyaf y crai ar ôl Barnaul, canolfan weinyddol y crai. Poblogaeth: 210,115 (Cyfrifiad 2010).
Cyfeirir at y ddinas fel "y porth i Fynyddoedd Altai" oherwydd ei lleoliad heb fod ymhell o'r mynyddoedd hynny yn Siberia. Mae Traffordd Chuysky yn cychwyn yn Biysk ac yn mynd wedyn drwy Weriniaeth Altai i'r ffin rhwng Rwsia a Mongolia.
Sefydlwyd caer ger y ddinas yn 1708-09, ar orchymyn Tsar Pedr Fawr. Daeth dinas Biysk yn ganolfan fasnachol o bwys rhanbarthol.
Ceir maes awyr yn gwasanaethu'r ddinas a'r ardal. Mae traffordd yn ei chysylltu â Novosibirsk.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2020-10-20 yn y Peiriant Wayback