Baner Lwcsembwrg
Gwedd
Baner drilliw lorweddol o stribedi coch, gwyn a glas yw baner Lwcsembwrg. Nid oedd gan y wlad faner nes 1830, pan cafodd gwladgarwyr eu hannog i ddangos y lliwiau cenedlaethol. Dyluniwyd y faner yn 1848 gyda lliwiau arfbais yr Archddug (sy'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg) ond ni chafodd ei mabwysiadu'n swyddogol tan 1972. Dyler nodi bod y faner yn unfath â baner yr Iseldiroedd, ond mae baner Lwcsembwrg yn hirach, ac ei lliw glas yn oleuach.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)