Bobby Fischer
Bobby Fischer | |
---|---|
Ganwyd | Robert James Fischer 9 Mawrth 1943 Chicago |
Bu farw | 17 Ionawr 2008 o methiant yr arennau Reykjavík |
Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll, llenor, dyfeisiwr |
Tad | Paul Nemenyi |
Priod | Miyoko Watai |
Gwobr/au | pencampwr gwyddbwyll y byd, Chess Oscar |
Gwefan | https://bobbyfischer.net |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Chwaraewr ac Uwchfeistr gwyddbwyll a aned yn yr Unol Daleithiau oedd Robert James "Bobby" Fischer (9 Mawrth, 1943 – 17 Ionawr, 2008).[1] ond daeth yn ddinesydd Gwlad yr Iâ erbyn diwedd ei oes. Yn 1972 daeth yn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, yr unig Americanwr hyd yn hyn i wneud hynny, wrth guro Boris Spassky.
Ganwyd Robert James Fischer yn Chicago ar Fawrth 9fed, 1943. Symudodd y teulu i Brooklyn, Efrog Newydd pan oedd yn 6 mlwydd oed, ac yn ystod yr un flwyddyn prynodd ei chwaer set wyddbwyll yn y siop leol, a gyda'i gilydd fe wnaethant ddysgu'r rheolau o'r cyfarwyddiadau yn y bocs.
Yn ei eiriau ef ei hun "I got good" pan oedd yn 11, ac roedd yn bencampwr America yn 14 mlwydd oed, cyn dod yr Uwchfeistr ifancaf erioed yn 15 mlwydd oed.
Ychydig iawn o bobl yn hanes y gêm sydd wedi astudio gwyddbwyll mor drylwyr â Bobby Fischer. Dywedai ei fod yn rhoi 98% o'i amser i wyddbwyll tra fod popeth arall yn rhannu y 2% oedd yn weddill. Ar ôl cael ei chwalu gan Boris Spassky mewn gêm Gambit y Brenin fe aeth adref i astudio'r agoriad o bob ongl. Ysgifennodd erthygl "A Bust to the King's Gambit" ar sut i amddiffyn yn erbyn yr agoriad yma, ac yn dilyn hyn peidiodd pob Uwchfeistr chwarae'r agoriad.
Un ffaith sy'n dangos yn fwy na dim sut berson oedd Fischer yw'r un ei fod wedi dysgu Rwsieg er mwyn darllen llyfrau meistri Rwsia ar ôl darllen popeth oedd ar gael yn Saesneg ar wyddbwyll.
Agoriadau syml a ddefnyddiau bob tro gan ddechrau bron bob amser gyda e4, ond yng nghanol y gêm byddai'n gallu dinistrio ei wrthwynebwyr gyda symudiadau athrylithgar. Ac os byddai'r gêm yn parhau tan y diwedd nid oedd neb yn deall y diweddglo (endgame) yn well na Bobby Fischer.
Daeth awr fawr Bobby Fischer yn 1972 pan chwaraeodd yn erbyn Boris Spassky o Rwsia am bencampwriaeth y byd yn Reykjavick, Gwlad yr Ia. Ar un ochr roedd Spassky, a oedd fel chwaraewyr Rwsia wedi cael ei hyfforddi gan y meistri ers yn ifanc, ac a oedd â thîm o chwaraewyr gorau Rwsia i'w gynorthwyo, ac ar y llall roedd Bobby Fischer ar ei ben ei hun. Fe wnaeth Fischer chwalu ei wrthwynebydd ac roedd y bachgen o Brooklyn gyda'r set o'r siop leol wedi trechu holl bwer y Sofietiaid.
Ond o fewn blwyddyn roedd wedi troi ei gefn ar y cyfan ac yn byw fel meudwy. Dywedir fod y ffin rhwng athrylith a gwallgofrwydd yn denau iawn a gwelwyd hyn ym mywyd Fischer. Credai fod pawb yn cynllwynio yn ei erbyn ac roedd er enghraifft yn gwadu fod yr Holocost wedi digwydd. Ar ôl byw yn alltud yn Siapan ac yng Nghwlad yr Ia fe fu farw yn Reykjavick, lleoliad ei awr fawr yn 1972.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Chess Champion Bobby Fischer Has Died. The Post Chronicle (17 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 18 Ionawr, 2008.