Asghar Farhadi
Asghar Farhadi | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mai 1972 Talaith Isfahan |
Dinasyddiaeth | Iran |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd, cynhyrchydd ffilm |
Adnabyddus am | Am Elly, A Separation, Le passé – Das Vergangene, The Salesman, A Hero |
Priod | Parisa Bakhtavar |
Plant | Sarina Farhadi |
Gwobr/au | Gwobr yr Arth Arian i'r Cyfarwyddwr Gorau, Yr Arth Aur, Gwobr Cesar i'r Ffilm Estron Gorau, Gwobr y Golden Globe i'r Ffilm Iaith Estron Gorau, Asian Film Award for Best Director, Prize of the Ecumenical Jury Cannes, Gwobr Chlotrudis i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Chlotrudis am y Ddrama-sgrin Wreiddiol Orau, Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes), Cannes Film Festival Grand Prix |
Mae Asghar Farhadi (ganwyd 7 Mai 1972) yn un o brif gyfarwyddwyr ffilm y byd, un o gyfarwyddwyr prin i ennill Oscar dwywaith gan ennill yn 2012 a 2017 am ffilm orau mewn iaith dramor [1][2]
Fe'i enwyd yn rhestr 2012 cylchgrawn Time yn 'un o bobl mwyaf ddylanwadol y byd'.
Bywyd a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Homayoon Shahr, talaith Isfahan, Iran (yn dilyn Chwyldro Islamaidd Iran newidiwyd enw'r dref a oedd yn meddwl 'Tref hynod' i Khomeyni Shahr – 'Tref Khomeyni' ar ôl yr Ayatollah Khomeini).
Astudiodd theatr yn y brifysgol yn Tehran ble dechreuodd gwneud ffilmiau ei hun ar gamera 8mm ac 16mm cyn mynd ymlaen i ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu a chynhyrchu rhaglenni teledu.
Yn 2003 cynhyrchodd ei ffilm gyntaf Dancing in the Dust, wedyn The Beautiful City (2004) a Fireworks Wednesday (2006). Yn 2009 daeth i sylw'r byd gyda About Elly a enillodd nifer fawr o wobrau rhyngwladol yn cynnwys cyfarwyddwr gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin.
Daeth Farhadi yn enwog yn y gorllewin am ei ffilm ganlynol A Separation (2011). Enillodd y brif wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin ac Oscar am Best Foreign Language Film – y ffilm cyntaf o'r dwyrain canol i ennill Gwobr Academi Hollywood. Bu torfeydd llawen yn aros i'w groesawu pan ddychwelodd i faes awyr Tehran ond blociodd lywodraeth Iran groeso swyddogol iddo.[3]
Yn 2017 enillodd Oscar unwaith eto am ei ffilm The Salesman ond benderfynodd beidio â mynychu'r seremoni wobrwyo mewn protest yn erbyn gwaharddiad llywodraeth Donald Trump i atal ymwelwyr o sawl gwlad Fwslemiaid.[4]
Themâu
[golygu | golygu cod]Mae ffilmiau Farhadi yn ymdrin â themâu elfennol bywyd a chymhlethdodau a dilemâu’r byd modern sydd yn codi rhwng dosbarthiadau cymdeithasol a pherthynas dynion a merched.
Fel llawer o gyfarwyddwyr ffilm gyfoes y wlad mae Farhadi yn adlewyrch tensiwn Iran heddiw. Y tyndra rhwng agweddau modern a thraddodiadau Islamaidd ffwndamentalaidd, rhyddid yr unigolion a chyfyngiadau cymdeithas, rôl merched a chyfrifoldeb teuluol, cyfoeth a dosbarth. Er Enghraifft mae About Elly yn dilyn criw o bobl ifanc dosbarth canol o Tehran yn mynd ar wyliau lan môr a'r problemau sydd yn codi wedi iddynt ddweud bod bachgen hyderus a merch swil yn bâr briod er mwyn cael aros yn y tŷ hâf (mae cyfraith Iran yn atal merched rhag nifer o weithgaredd heb fod yn nghwmni gŵr, tad neu frawd). Mae The Separation yn dilyn cwpl sydd yn mynd trwy ysgariad, eu gwrthdaro, dryswch ac ansicrwydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.reuters.com/article/us-oscars-aseparation-idUSTRE81Q06X20120227
- ↑ http://www.imdb.com/name/nm1410815/
- ↑ http://www.rferl.org/a/iran_authorities_block_ceremony_oscar_winner_film_director_farhadi_separation/24513307.html
- ↑ https://qz.com/919640/oscars-2017-the-iranian-director-asghar-farhadi-protesting-trumps-travel-ban-sent-space-traveller-anousheh-ansari-to-pick-up-his-award/