Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Agamemnon

Oddi ar Wicipedia
Agamemnon
Swyddbrenin Mycenae Edit this on Wikidata
TadAtreus Edit this on Wikidata
MamAerope Edit this on Wikidata
PriodClytemnestra Edit this on Wikidata
PartnerChryseis, Briseis, Cassandra Edit this on Wikidata
PlantOrestes, Iphigenia, Chrysothemis, Electra, Laodice, Iphianassa, Teledamus, Chryses, Pelops, Halaesus, Hyperion Edit this on Wikidata
'Masg Agamemnon', a ddarganfuwyd gan Heinrich Schliemann yn 1876 yn Mycenae. Er gwaethaf yr enw, nid oes sicrwydd pwy y maen ei gynrychioli.

Cymeriad ym Mytholeg Roeg yw Agamemnon (Hen Roeg: Ἀγαμέμνων). Mae'n fab i Atreus, brenin Mycenae a'i wraig Aerope, ac yn frawd i Menelaus. Daw yn frenin Mycenae (neu Argos yn ôl rhai fersiynau) ar ôl ei dad, ac mae'n briod a Clytemnestra. Mae'n gymeriad yn yr Iliad gan Homeros.

Pan mae Paris, sy'n fab i Priam, brenin Caerdroea yn cipio Elen, gwraig Menelaos, a'i dwyn i Gaerdroea, mae Meneloaos yw gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith Achilles a'i gyfaill Patroclus, yr hynafgwr Nestor, Aiax, Odysseus, Calchas a Diomedes, gydag Agamemnon yn arweinydd arnynt.

Pery Rhyfel Caerdroea am ddeng mlynedd cyn i'r ddinas gael ei chipio a'i dinistrio. Pan ddychwel Agamemnon adref o'r rhyfel, llofruddir ef gan ei wraig, Clytemnestra, a'i chariad Aegisthus, wedi iddo anwybuddu rhybudd ei ordderch Cassandra.

Gallai Agamemnon fod wedi ei seilio ar gymeriad hanesyddol; mae dogfennau Hethaidd yn crybwyll Akagamunaš, rheolwr Ahhiyawa (gwlad yr Acheaid) yn y 14g CC.