Abaty Tyndyrn
Math | abaty, adfeilion mynachlog |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tyndyrn |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 10.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.6971°N 2.67722°W |
Rheolir gan | Cadw |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM102 |
Abaty ar lan Afon Gwy ger pentref Tyndyrn, Sir Fynwy, Cymru, yw Abaty Tyndyrn. Fe'i sefydlwyd gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai 1131. Hon oedd yr ail sefydliad Sistersaidd yng ngwledydd Prydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'r adfeilion wedi ysbrydoli nifer o gampweithiau; cerddi Tintern Abbey gan William Wordsworth ac Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun), a nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner.
Hanes yr abaty
[golygu | golygu cod]Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn trwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a roddodd y tir cyntaf ym Mhrydain i'r Sistersiaid ynWaverley, yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc.
Dros y blynyddoedd, sefydlodd Tyndyrn ddau dŷ cangen, Abaty Kingswood yng Nghaerloyw a Tintern Parva, i'r gorllewin o Loch Garman (Wexford) yn ne-ddwyrain Iwerddon yn 1203. Roedd y mynaich Sistersaidd a oedd yn byw yn Nhyndyrn yn dilyn rheol Sant Benedict, y Carta Caritatis (Siartr Cariad), a osododd eu prif egwyddorion fel hyn:
- Ufudd-dod
- Tlodi
- Diweirdeb
- Distawrwydd
- Gweddi
- Gwaith
Gyda'r ffordd lem yma o fyw, y Sistersiaid oedd un o urddau mwyaf llwyddiannus y 12fed a'r 13g. Mae adfeilion Tyndyrn heddiw yn gymysgedd o adeiladwaith sy'n dyddio dros gyfnod o bedwar can mlynedd rhwng 1136 ac 1536. Ychydig iawn sy'n weddill o'r adeiladau cyntaf, cafodd rhannau o'r waliau cyntaf eu cyfuno yn yr adeiladwaith diweddarach, daw'r ddwy gwpwrdd yn y clwystai dwyreiniol o'r cyfnod hwn. Roedd y capel yn llai ac ychydig i'r gogledd yn yr adeg honno.
Rhannwyd tiroedd yr abaty yn unedau amaethyddol, neu faenorau, roedd pobl lleol yn gwithio ar y maenorau rhain gan roi gwasanaeth megis goaint i'r abaty. Roddwyd nifer o waddolion tir ar ddwy ochr o'r afon i'r abaty. Yn ystod yr 13g, ail-adeiladwyd yr abaty bron yn gyfangwbl, y clwystai yn gyntaf ac yna'r rhannau domestig, ac yn olaf y capel mawr rhwng 1269 ac 1301. Roedd Roger Bigod III, arglwydd Cas-gwent ar y pryd, yn gymwynaswr hael; ei ymgymeriad enfawr ef oedd ail-adeiladu'r capel. Rhoddodd yr abaty ei arfbais yng nghwydr y ffenest gorllewinol i ddangos eu diolchgarwch. Hon yw'r capel sydd iw weld yno heddiw. Mae ganddo gynllun croesffurf a chorff gyda eiliau; mae dau gapel ym mhob croesfa a cangell pen sgwar gyda eiliau. Mae'r capel gothig yn cynyrchiloi'r datblygiadau pensaernïol o'i adeg, mewn steil addurniadol gyfoes.
Yn 1326 ymwelodd Edward II o Loegr â Tyndyrn a dreuliodd ddwy noson yno. Yn 1349, lledaenodd y Pla Du ar drws y wlad a daeth yn amhosib i'r abaty ddenu recriwtiaid newydd ar gyfer y frawdoliaeth lleyg. Newidiodd y ffordd y gweithwyd y maenorau, gan eu rhoi i denantiaid, yn hytrach na cael eu gweithio gan y brodyr llyg, gan ddangos i Dyndyrn ddioddef prinder llafur. Yn y 1400au cynnar, dioddefodd Tyndyrn drafferthion ariannol, yn rhannol oherwydd y gwrthryfel Cymreig dan arweiniaeth Owain Glyn Dŵr yn erbyn y Saeson; dinistrwyd eiddo'r abatai gan wrthryfelwyr Cymreig. Digwyddodd y frwydr agosaf i'r abaty yn Craig y Dorth ger Mynwy, rhwng Trellech a Llanfihangel Troddi.
Yn ystod teynasiad Harri VIII o Loegr, daeth bywyd mynachlog traddodiadol i ben yn sydyn yn Lloegr a Chymru yn dilyn ei bolisi o sefydlu rheolaeth cyfangwbl dros y capel, yn rannol er mwyn cymryd mantais o holl gyfoeth y mynachlogau. Ar 3 Medi 1536, ildiodd y Mynach Wyche Abaty Tyndyrn i ymwelwyr y brenin, gan ddod a ffordd o fyw a oedd wedi goroesi pedwar can mlynedd i ben. Anfonwyd yr eitemau gwerthfawr o'r abaty i drysorfa'r brenin a pensiynwyd y Mynach Wyche. Rhoddwyd yr adeilad i Iarll Caerwrangon, gwerthwyd y plwm oddi ar y to a dechreuodd dadfeiliad cragen yr adeilad. Yn ystod y ddwy ganrif canlynol, dangoswyd prin neu ddim diddordeb yn hanes y safle.
Ailddarganfod Tyndyrn
[golygu | golygu cod]Yn y 18g daeth yn ffasiynol i ymweld a rhannau mwy gwyllt o Brydain a daeth Dyffryn Gwy yn arbennig yn adnabyddus am ei rinweddau rhamantus a darluniadwy. Ymwelwyd â'r abaty, a oedd wedi ei orchuddio gan eiddew, yn aml gan ymwelwyr dan ddylanwad y mudiad Rhamantaidd. Ar ôl cyhoeddu'r llyfr Observations on the River Wye gan y Parchedig William Gilpin yn 1782, daeth ymwelwyr i'r safle yn llu. Yn ystod y 19g, daeth adfeilion abatai yn destun ymchwil i ysgolheigion ac astudwyd eu pensaernïaeth a gwneud gwaith archaeolegol. Prynwyd yr abaty gan Ystad y Goron yn 1901 am £15,000, ac fe'i adnabyddwyd fel cofadail o bwysigrwydd cenedlaethol a gwnaed gwaith trwsio a cynnal a chadw. Yn 1914, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y safle ymlaen i'r Office of Works a gwnaethwyd gwaith trwsio strwythurol mawr — tynnwyd yr eiddew, a ystyrid i fod mor rhamantus gan ymwelwyr gynt, oddi ar yr adeilad.
Yn 1984, cymerodd Cadw gyfrifoldeb dros y safle.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Pen orllewinol Abaty Tyndyrn
-
Tu mewn Abaty Tyndyrn, 2004
-
Abaty Tyndyrn o lan Lloegr Afon Gwy, 2004
Diwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]Roedd yr abaty yn lleoliad i fideo Iron Maiden, Can I Play with Madness yn 1988. Ceir yn ogystal band o'r enw "Tintern Abbey".