Abaty Llandudoch
Gwedd
Math | abaty |
---|---|
Enwyd ar ôl | Dogfael |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandudoch |
Sir | Sir Benfro, Llandudoch |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 18.1 metr |
Cyfesurynnau | 52.080458°N 4.680618°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE073 |
Abaty yn Llandudoch, sir Benfro yw Abaty Llandudoch. Sefydlwyd ef fel priordy tua 1115 ar gyfer prior a deuddeg mynach o Urdd Tiron, gan Robert fitz Martin a'i wraig Maud Peverel (chwaer William Peverel yr ieuengaf). Yn 1120, daeth yn abaty, gyda'r mynachod yn dilyn rheol Urdd Sant Bened.
Wedi diddymu'r mynachlogydd, parhaodd y plwyf i ddefnyddio eglwys yr abaty am gyfnod. Erbyn hyn, mae'n adfeilion, ond erys cryn dipyn o'r muriau.