Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Anne Rice

Oddi ar Wicipedia
Anne Rice
FfugenwAnne Rampling, A. N. Roquelaure Edit this on Wikidata
GanwydHoward Allen Frances O'Brien Edit this on Wikidata
4 Hydref 1941 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Rancho Mirage Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol San Francisco
  • Prifysgol y Merched, Texas
  • Prifysgol Gogledd Tecsas
  • Richardson High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amInterview with the Vampire Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth arswyd, erotic literature, ffantasi Edit this on Wikidata
PriodStan Rice Edit this on Wikidata
PlantMichele Rice, Christopher Rice Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cynhadledd Arswyd Fydeang yr Uwch Feistr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.annerice.com Edit this on Wikidata

Awdur Americanaidd oedd Anne Rice (4 Hydref 194111 Rhagfyr 2021) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd a sgriptiwr ffuglen gothig, Cristnogol ac erotig. Yn 2019 ei gwaith mwyaf poblogaidd oedd The Vampire Chronicles a addaswyd yn nifer o ffilmiau: Interview with the Vampire (1994) a Queen of the Damned (2002).

Ganed Howard Allen Frances O'Brien yn New Orleans ar 4 Hydref 1941. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol San Francisco, Prifysgol y Merched, Texas a Phrifysgol Gogledd Tecsas. Priododd yr arlunydd Stan Rice yn 1961 a bu'r ddau briod am 41 o flynyddoedd tan iddo farw o gancr yn 2002 yn 60 oed.[1][2][3][4][5][6]

Mae'r awdur Christopher Rice yn blentyn iddi; collodd blentyn arall, Michelle, yn 5 oed o liwcimia.[7][8]

Treuliodd Rice lawer o'i bywyd cynnar yn New Orleans cyn symud i Texas, ac yn ddiweddarach i San Francisco. Cafodd ei magu mewn teulu Catholig eitha llym, ond daeth yn agnostig pan oedd yn oedolyn ifanc. Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu proffesiynol gyda chyhoeddi Interview with the Vampire ym 1976, wrth fyw yng Nghaliffornia, a dechreuodd ysgrifennu dilyniannau i'r nofel yn yr 1980au. Yng nghanol y 2000au, dychwelodd at Babyddiaeth, cyhoeddodd Rice y nofelau Christ the Lord: Out of Egypt and Christ the Lord: The Road to Cana, adroddiadau ffuglennol o rai digwyddiadau ym mywyd Iesu Grist. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach fe ymbellhaodd oddi wrth Gristnogaeth confensiynol, gan nodi anghytuno â safbwyntiau'r Eglwys Gatholig ar faterion cymdeithasol ond gan addo bod ffydd yn Nuw yn parhau i fod yn "ganologig i'w bywyd." Fodd bynnag, mae hi bellach yn ystyried ei hun yn ddyneiddiwr seciwlar.[9]

Roedd cyfanswm gwerthiant ei llyfrau, erbyn 2019, dros 10 miliwn, sy'n rhoi Anne Rice yn agos iawn i frig y tabl awduron Americanaidd benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[10][11]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Rice oedd yr ail o bedair merch i rieni o dras Gatholig Wyddelig, Howard O'Brien a Katherine "Kay" Allen O'Brien.[12] Gweithiodd ei thad, cyn-filwr Llyngesol o'r Ail Ryfel Byd a phreswylydd gydol oes yn New Orleans, fel Uwch-swyddog Personél ar gyfer Gwasanaeth Post UDA, ac ysgrifennodd un nofel, The Impulsive Imp, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.[13][14] Yn ddiweddarach daeth ei chwaer hŷn, Alice Borchardt, yn awdur nodedig ffuglen ffantasi ac arswyd.

Treuliodd Rice y rhan fwyaf o flynyddoedd ei phlentyndod a'i harddegau yn New Orleans, dinas sy'n ffurfio'r cefndir i lawer o'i gweithiau. Cafodd ei blynyddoedd cynnar eu nodi trwy ymdopi â thlodi’r teulu ac alcoholiaeth ei mam. Roedd hi a'i theulu yn byw yng nghartref ei mam-gu, Alice Allen, ("Mamma Allen") yn 2301 St Charles Avenue, y dywed Rice a ystyriwyd gan lawer fel "Ghetto Catholig".[15][16] Pan oedd Rice yn 15 oed, bu farw ei mam o alcoholiaeth.[12][17][18] Penderfynnodd ei thad ei rhoi hi a'i chwiorydd yn Academi Sant Joseff, lle a ddisgrifiwyd gan Rice fel "rhywbeth allan o Jane Eyre ... lle a oedd yn dadfeilio, lle erchyll, canoloesol. Roeddwn yn ei gasau ac yn dymuno gadael. Teimlwn fod fy nhad wedi ein bradychu."[19]

Bu farw Rice ar 12 Rhagfyr 2021. Yr un diwrnod, cyhoeddodd ei mab Christopher ei marwolaeth ar Twitter.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Cynhadledd Arswyd Fydeang yr Uwch Feistr (1994) .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne RICE". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". "Anne Rice". "Anne Rice". "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: "Anne Rice, author of 'Interview with the Vampire,' dies" (yn Saesneg).
  5. Achos marwolaeth: "Author Anne Rice dies aged 80".
  6. Crefydd: "What do the words, "secular humanism," mean to you? Can you explain? (I am a secular humanist myself and I am thankful to be living in what I believe to be a secular humanist country, but I welcome your thoughts on this.)". Facebook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2016. Cyrchwyd 14 Ebrill 2013.
  7. Rice, Anne. "Phone Message Transcript: 9 Rhagfyr 2002". AnneRice.com. Anne Rice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mai 19, 2012. Cyrchwyd Mehefin 10, 2012.
  8. "Stan Rice Obituary". Legacy.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 21, 2012. Cyrchwyd Mehefin 10, 2012.
  9. Rice, Anne (Ebrill 14, 2013). "Anne Rice". Facebook.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 24, 2016. Cyrchwyd Ebrill 26, 2014. What do the words, "secular humanism," mean to you? Can you explain? (I am a secular humanist myself and I am thankful to be living in what I believe to be a secular humanist country, but I welcome your thoughts on this.)
  10. "Anne Rice". FantasticFiction. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 21, 2011. Cyrchwyd Mehefin 10, 2012.
  11. "PreachingToday.com & Christianity Today". PreachingToday.com & Christianity Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mehefin 19, 2012. Cyrchwyd Mehefin 10, 2012.
  12. 12.0 12.1 Husband, Stuart (Tachwedd 2, 2008). "Anne Rice: interview with the vampire writer". London: The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Rhagfyr 13, 2017. Cyrchwyd Medi 11, 2010.
  13. "THE IMPULSIVE IMP by Howard O'Brien". Kirkus Reviews. Cyrchwyd 10 Mehefin 2012.[dolen farw]
  14. Rice, Anne. "The Impulsive Imp". AnneRice.com. Anne Rice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 16, 2012. Cyrchwyd Mehefin 10, 2012.
  15. McGarvey, Bill. "Busted: Anne Rice". Busted Halo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 22, 2012. Cyrchwyd Mehefin 10, 2012.
  16. "Special-Interest Sightseeing: Anne Rice's New Orleans". John Wiley & Sons, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 22, 2011. Cyrchwyd Mehefin 19, 2011.
  17. Ferraro, Susan (Gorffennaf 14, 1990). "Novels You Can Sink Your Teeth Into". The New York Times Magazine. The New York Times Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Rhagfyr 13, 2012. Cyrchwyd Gorffennaf 3, 2012.
  18. "Anne Rice Biography". Biography. AETN UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2012. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
  19. Ramsland 1991, t. 53