A496
Gwedd
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9°N 4.1°W |
Hyd | 32.8 milltir |
Priffordd yn ne Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru, yw'r A496. Mae'n cysylltu Blaenau Ffestiniog, yn y gogledd, a Llanelltud (ger Dolgellau) yn y de.
Mae'r ffordd yn dilyn cwrs sy'n cyfateb yn fras i siâp D fawr o'r chwith, gan redeg i gyfeiriad y gorllewin o Lanelltud i Abermaw ar hyd glan ogleddol Afon Mawddach ac yna'n troi i'r gogledd ar hyd arfordir Ardudwy i fyny trwy Harlech i Faentrwog ac yn ei blaen wedyn i fyny cwm Ffestiniog i Flaenau.
Lleoedd ar ei chwrs
[golygu | golygu cod]Wedi eu rhestru o'r de i'r gogledd.
- Llanelltud (cyffordd â'r A470)
- Bontddu
- Cutiau
- Abermaw
- Llanaber
- Tal-y-bont
- Llanddwywe
- Dyffryn Ardudwy
- Llanenddwyn
- Llanbedr
- Pen-sarn
- Llanfair
- Harlech
- Llanfihangel-y-traethau ('Ynys')
- Glan-y-wern
- Talsarnau
- Maentwrog (cyffordd â'r A470)
- Rhyd-y-sarn
- Tanygrisiau
- Blaenau Ffestiniog