Cwpan Pêl-droed Asia
Founded | 1956 |
---|---|
Region | Asia (Cyd-ffederasiwn Pêl-droed Asia) |
Number of teams | 24 (finals) 46 (eligible to enter qualification) |
Current champions | Qatar (1st title) |
Most successful team(s) | Japan (4 titles) |
Website | www.the-afc.com |
2023 AFC Asian Cup |
Mae Cwpan Pêl-droed Asia AFC yn cael ei gynnal bob 4 blynedd gan Gydffederasiwn Pêl-droed Asia - yr AFC. Ar ôl 2004, penderfynwyd symud y bencampwriaeth i osgoi gwrthdrawiad â thwrnameintiau eraill. Felly gohiriwyd y digwyddiad nesaf tan 2011.
Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf ym 1956. Mae Siapan, Iran a Arabia Sawdi i gyd wedi ennill deirgwaith yr un. Yn ogystal â'r cenhedloedd Asiaidd, mae Awstralia hefyd yn y twrnamaint. Mae Israel wedi cymryd rhan yn y gorffennol, ond wedi ymuno ag UEFA.
Y pencampwyr cyfredol yw Qatar wedi budduoliaeth o 3-1 dros Japan yn 2019.
Sefydlu
[golygu | golygu cod]Cynigiwyd cystadleuaeth pan-Asiaidd gyntaf ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ni chafodd ei gweithredu tan y 1950au. Ddwy flynedd ar ôl i Gydffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC) ddod i fodolaeth ym 1954, cynhaliwyd y Cwpan Asiaidd AFC cyntaf erioed yn Hong Kong gyda saith o'r deuddeg aelod sefydlu yn cymryd rhan, gan wneud y twrnamaint yr ail hynaf yn y byd. Roedd y broses gymhwyso yn cynnwys y gwesteiwyr ynghyd ag enillwyr y gwahanol barthau (Canol, Dwyrain a Gorllewin). Twrnamaint pedwar tîm yn unig ydoedd, fformat a oedd hefyd yn bodoli ar gyfer 1960 a 1964. Mae pob is-gydffederasiwn eisoes yn cynnal eu pencampwriaeth bob dwy flynedd eu hunain, pob un â graddau amrywiol o ddiddordeb.[1]
Dangosodd De Corea ei rhagoriaeth ym mlynyddoedd cynnar y gystadleuaeth wrth i'r wlad orchfygu 1956 a 1960; mae hyn yn parhau i fod fel cyflawniadau gorau De Corea yn y twrnamaint.[2]
Crynodeb o'r enillwyr
[golygu | golygu cod]Mae Cwpan Asia wedi ei ddominyddu gan lond dwrn o brif dimau. Y gwledydd cychwynnol llwyddiannus oedd De Corea ac Iran (tair waill ill dau). Er 1984 mae Siapan a Arabia Sawdi wedi bod y timau mwyaf llwyddiannus, gan ennill saith o'r deg ffeinal ddiwethaf. Y gwledydd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus yw Qatar (enillwyr 2015) ac Awstralia (enillwyr 2015). Irac (2007) a Cowait (1980). Bu i Israel ennill yn 1964 ond fe'i diarddelwyr o'r AFC gan ymuno ag UEFA (corff pêl-droed Ewrop).
Datblygiadau diweddar
[golygu | golygu cod]Ymunodd Awstralia yr AFC yn 2007 gan gynnal twrnament Cwpan Asia yn 2015. Ehangwyd twrnament 2019 o 16 tîm i 24 gyda'r broses gymwyso yn dyblu hefyd fel ran o broses cymwyso ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[3][4] Yn y twrnamaint yn 2019 defnyddiwyd cynorthwy-ydd dyfarnu fideo (VAR) am y tro cyntaf.[5]
Enillwyr y Cwpan
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Enillydd | Ffeinalist arall | Gwlad cynnar |
---|---|---|---|
1956 | De Corea De Corea | Israel Israel | Hong Cong |
1960 | De Corea De Corea | Israel Israel | De Corea |
1964 | Israel Israel | India India | Israel |
1968 | Iran Iran | Myanmar Myanmar | Iran |
1972 | Iran | De Corea De Corea | Gwlad Thai |
1976 | Iran Iran | Coweit Cowait | Iran |
1980 | Coweit Cowait | Israel Israel | Coweit Kuwait |
1984 | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | Tsieina G.P. China | Singapôr |
1988 | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | De Corea De Corea | Qatar Qatar |
1992 | Japan Japan | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | Japan |
1996 | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | Emiradau Arabaidd Unedig EAU | Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig |
2000 | Japan Japan | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | Libanus Libanus |
2004 | Japan Japan | Tsieina C.P. China | Tsieina |
2007 | Irac Irac | Sawdi Arabia Arabia Sawdi | India Maleisia Gwlad Tai Fietnam De Ddwyrain Asia |
2011 | Japan Japan | Awstralia Awstralia | Qatar Qatar |
2015 | Awstralia Awstralia | De Corea De Corea | Awstralia |
2019 | Qatar | Japan | Emiradau Arabaidd Unedig |
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.amazon.in/Recurring-Sporting-Events-Established-1956/dp/1156748968
- ↑ "The AFC".
- ↑ "Revamp of AFC competitions". The-afc.com. 25 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2014.
- ↑ "AFC Asian Cup changes set for 2019". Afcasiancup.com. 26 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2014.
- ↑ "AFC plans to introduce VAR at UAE 2019". 27 September 2018.