Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Cwmwl Oort

Oddi ar Wicipedia
Cwmwl Oort
Enghraifft o'r canlynoltrans-Neptunian object, endid damcaniaethol Edit this on Wikidata
Rhan oCysawd yr Haul allanol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHills cloud Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cwmwl ar ymyl Cysawd yr Haul y tybir iddo fod yn fagwrfa comedau yw Cwmwl Oort. Ym 1950 sylwodd Jan Oort ar y ffaith nad oedd unrhyw gomed wedi cael ei weld gyda chylchdro a oedd yn arddangos ei fod yn dod o ofod rhyngseryddol, fod tueddiad gan gomedau cyfnod hir i gael affelionau o ryw 50,000 Unedau Seryddol o bellter, ac nad oes unrhyw gyfeiriad ffafriol fel tarddiad iddynt. Felly fe wnaeth Jan Oort, yn dilyn ar waith arloesol cynharach Ernst Julius Öpik (1893-1985), gynnig fod y comedau'n trigo mewn cwmwl enfawr ar gyrion allanol Cysawd yr Haul. Mae'r ystadegau'n awgrymu ei fod yn cynnwys cymaint â thriliwn (1e12) o gomedau. Yn anffodus -gan eu bod mor fychain â mor bell - does dim prawf o fodolaeth Cwmwl Oort.

Yn 2004 darganfuwyd gwrthrych a elwir bellach Sedna. Mae ei gylchdro'n gorwedd rhwng Gwregys Kuiper a beth oedd yn cael ei hystyried yn rhan fewnol o Gwmwl Oort. Efallai bydd Sedna'r cyntaf o ddosbarth newydd o wrthrychau, sef "gwrthrychau Cwmwl Oort mewnol".

Mae'r graffeg yn dangos y pellter o gwmwl Oort i weddill Cysawd yr haul a dau o'r sêr agosaf wedi ei fesur mewn Unedau seryddol. Mae'n defnyddio graddfa logarithmig, gyda pob mesuriad deg gwaith pellach o'r Haul na'r un blaenorol
Llun artist o gwmwl Oort a wregys Kuiper (mewnosodedig). Mae meintiau gwrthwrychau unigol wedi eu chwyddo er mwyn eglurdeb.