Volubilis
Delwedd:Volubilis,Morocco.jpg, Volubilis 1990.jpg | |
Math | anheddiad dynol, Carthaginian archaeological site, dinas hynafol, safle archaeolegol Rhufeinig |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Oualili |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 42 ha |
Cyfesurynnau | 34.0711°N 5.5536°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, Treftadaeth ddiwylliannol Moroco |
Manylion | |
Safle hen ddinas Rufeinig ym Moroco yw Volubilis (Arabeg وليلي Oualili), a leolir ger Meknes rhwng Fez a Rabat. Moulay Idriss yw'r dref agosaf. Yn Volubilis ceir rhai o'r gweddillion Rhufeinig gorau yng Ngogledd Affrica. Yn 1997 rhoddwyd y safle ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Lleolid Volubilis ar ffin orllewinol y tiriogaethau Rhufeinig yng ngogledd Affrica. Tyfodd i fod yn ddinas bwysig. Cafodd ei sefydlu tua OC 40, yn fwy na thebyg ar safle tref Carthagaidd gynharach. Daw'r enw o'r enw Berber Alili (Oleander).
Volubilis oedd canolfan weinyddol y dalaith Rufeinig Mauretania Tingitana. Roedd y tir o'i chwmpas yn ffrwythlon a'r cnydau'n cynnwys grawn ac olew olewydd a allforid i Rufain.
Er i'r Rhufeiniaid dynnu allan o'r rhan fwyaf o orllewin Mauretania yn y 3g, parhaodd Volubilis yn ddinas Rufeinig. Ymddengys iddi gael ei dinistrio gan daeargryn ar ddiwedd y 4g a chael ei ymsefydlu o'r newydd yn y 6g gan grŵp bach o Gristnogion (darganfuwyd eu beddrodau sydd ag arywgrifau Lladin arnynt). Pan gyrhaeddodd y brenin Abassid Idris I yn 788 roedd y dref ym meddiant llwyth yr Awraba.