Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Rawson

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:52, 24 Awst 2008 gan Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Magu defaid yn Rawson
Yr hen bont dros Afon Camwy, Rawson

Mae Rawson (yn wreiddiol "Trerawson") yn dref yn yr Ariannin, prifddinas talaith Chubut ers sylfaen y dalaith yn 1957. Un o brifddinasoedd taleithiol lleiaf yr Ariannin yw hi, gyda phoblogaeth o ryw 25,000, a rhyw 122,000 o bobl yn byw yn y departamento. Mae Rawson rhyw 1470km o Buenos Aires a tua 7km o'r môr (Playa Union).

Sylfaenwyd y dref ar 15 Medi 1865, gan Gymry o'r llong Mimosa. Fe'i henwyd ar ôl Guillermo Rawson, gweinidog materion mewnol yr Ariannin ar y pryd, cefnogwr o gynllun y Wladfa Gymraeg. Adeiladwyd llawer o adeiladau llywodraethol newydd yn y 1970au, gan achosi i'r dref gael llysenw "Brasilia bach Patagonia" (La Pequeña Brasilia de la Patagonia).

Mae hinsawdd Rawson yn sych, gyda thymheredd o 0C i 15C ar gyfartaledd yn y gaeaf, 10C i 20C yn y gwanwyn a'r hydref, hyd at 38C yn yr hâf.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.