Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

John Keegan

Oddi ar Wicipedia
John Keegan
Ganwyd15 Mai 1934 Edit this on Wikidata
Clapham Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 2012 Edit this on Wikidata
Kilmington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, hanesydd milwrol, hanesydd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe First World War Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary doctor of the University of Bath, Marchog Faglor, doctor honoris causa Edit this on Wikidata

Hanesydd milwrol o Loegr oedd Syr John Desmond Patrick Keegan OBE FRSL (15 Mai 19342 Awst 2012). Bu'n awdur nifer o lyfrau poblogaidd ar hanes milwrol, yn olygydd amddiffyn The Daily Telegraph, ac yn ddarlithydd yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst am 25 mlynedd.[1]

Ganwyd yn Llundain, ac yn ystod y Blitz cafodd ei ddanfon i Taunton fel ifaciwî. Pan oedd yn 13 oed, cafodd twbercwlosis orthopedig ac o ganlyniad ni ymunodd â'r lluoedd arfog.[2] Astudiodd hanes yng Ngholeg Balliol, Prifysgol Rhydychen, ac yna gweithiodd yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain. Penodwyd yn ddarlithydd hanes milwrol yn Sandhurst ym 1960 a darlithodd yno hyd 1985.[3]

Cyhoeddwyd ei lyfr mawr cyntaf, The Face of Battle, ym 1976. Roedd llawer o'i waith yn ymdrin â'r hen gwestiwn o achosion rhyfel, a pham bod dynion yn ymladd. Yn A History of Warfare, a gyhoeddwyd ym 1993, dadleuodd bod gwrthdaro milwrol yn draddodiad diwylliannol a bod rhyfel diarbed yn yr 20g yn eithriad i hyn.[2] Canolbwyntiodd Keegan ar brofiadau'r milwyr cyffredin yn ogystal â'r cadfridogion a'r arweinwyr.[4] Cafodd ei recriwtio i'r Daily Telegraph ym 1986 gan y golygydd Max Hastings, i fod yn olygydd amddiffyn y papur newydd hwnnw. Ym 1994, cynghorodd Keegan Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wrth i'r byd ddathlu 50 mlynedd ers D-Day.[1]

Ymysg ei safbwyntiau dadleuol oedd ei farn bod y Rhyfel Byd Cyntaf yn "ddiangen",[2] a'i feirniadaeth lym o'r damcaniaethwr milwrol Prwsiaidd Carl von Clausewitz.[5] Cyhuddwyd Keegan hefyd o fod yn rhy Eingl-ganolog, er enghraifft yn ei honiad taw glaniadau Normandi, nid Brwydr Stalingrad, oedd methiant mwyaf Hitler ar faes y gad.[2]

Derbynodd OBE ym 1991 a chafodd ei urddo'n farchog yn 2000. Cafodd dau fab a dwy ferch â'i wraig Susanne.[1][3]

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Military historian Sir John Keegan dies, aged 78. BBC (3 Awst 2012). Adalwyd ar 3 Awst 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Binder, David (3 Awst 2012). John Keegan, Historian Who Put a Face on War, Dies at 78. The New York Times. Adalwyd ar 3 Awst 2012.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) John Keegan, British military historian and scholar of the spirit of warfare, dies at 78. The Washington Post. Associated Press (3 Awst 2012). Adalwyd ar 3 Awst 2012.
  4. (Saesneg) Richards, Y Cadfridog Syr David (3 Awst 2012). Sir John Keegan was very much one of us. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 3 Awst 2012.
  5. (Saesneg) Bassford, Christopher (Tachwedd 1994). John Keegan and the Grand Tradition of Trashing Clausewitz. War and History. Adalwyd ar 3 Awst 2012.