Francisco Goya
{{Person | fetchwikidata=ALL | | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | nationality = [[Delwedd:{{alias baner gwlad Cymru} }}|22x20px|Baner {{alias gwlad Cymru} }}]] [[{{alias gwlad Cymru} }}]] Arlunydd o Sbaen oedd Francisco José de Goya y Lucientes (30 Mawrth 1746 – 16 Ebrill 1828).[1] Ystyrir ef fel yr olaf o'r Hen Feistri, ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel Manet a Picasso.
Ganed Goya yn [, Sbaen, yn Nheyrnas Aragón yn 1746. Symudodd y teulu i Zaragoza yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas Madrid lle astudiodd dan Anton Raphael Mengs, ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.
Teithiodd i Rufain ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan Francisco Bayeu y Subías, a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y 1790au roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn 1792, aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl Caprichos yn 1799.
Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra). Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i Bordeaux a Paris yn 1824, gan ddychwelyd i Sbaen yn 1826 ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.
|
Cyfeiriadau
- ↑ Gomm, Sarah (2019). Francisco Goya (yn Saesneg). New York: Parkstone International. ISBN 9781783104178.