Dacia
Math | gwlad ar un adeg, hen wareiddiad, ardal hanesyddol |
---|---|
Prifddinas | Sarmizegetusa Regia |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Burebista |
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 45.7°N 26.5°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Burebista |
Crefydd/Enwad | Thracian mythology |
Arian | Coson |
Roedd Dacia yn dalaith Rufeinig, yn cyfateb i diriogaeth Rwmania a Moldofa heddiw, yn gorwedd i'r gogledd o Afon Donaw.
Bu ymladd yn Dacia yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Domitian, ond gorchfygwyd byddinoedd Rhufeinig yn 87 ac eto yn 88 gan Decebalus, brenin Dacia. Bu raid i Rufain dalu i'r Daciaid am heddwch. Fodd bynnag bu'r ymerawdwr Trajan yn fwy llwyddiannus. Yn fuan ar ôl dod yn ymerawdwr yn 98 dechreuodd gyfres o ymgyrchoedd a arweiniodd at ymgorfforiad Dacia fel talaith o'r ymerodraeth yn 107. Rhannodd yr ymerawdwr Hadrian Dacia yn ddwy dalaith, Dacia Inferior a Dacia Superior. Yn 159 crëwyd trydydd talaith, Dacia Porolisense, ac ail-enwyd y ddwy arall yn Dacia Apulensis a Dacia Malvensis, Yn 168 dan yr ymerawdwr Marcus Aurelius unwyd hwy yn un dalaith unwaith eto.
Prifddinas y dalaith oedd Sarmizegetusa, a enwyd y Ulpia Traiana am gyfnod. Bu rhyfela cyson ar y ffin, gyda'r Sarmatiaid yn ymosod yn barhaus. Ildiodd Rhufain y dalaith yn 275.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |