Cabrales
Math | council of Asturies |
---|---|
Prifddinas | Carreña |
Poblogaeth | 1,918 |
Pennaeth llywodraeth | Carlos Javier Puente Fernández |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q5991232 |
Sir | Province of Asturias |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 238.29 km² |
Uwch y môr | 307 metr |
Yn ffinio gyda | Onís, Llanes, Peñamellera Alta, Tresviso, Cillorigo de Liébana, Camaleño, Posada de Valdeón |
Cyfesurynnau | 43.316062°N 4.845833°W |
Cod post | 33555 / 33554 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Cabrales |
Pennaeth y Llywodraeth | Carlos Javier Puente Fernández |
Mae Cabrales yn ardal weinyddol yng nghymuned ymreolaethol Asturies, gogledd-orllewin Sbaen. Ystyrir Asturies gan lawer yn wlad ac iddi ei thraddodiadau a'i hanes ei hun, a cheir ymgyrch dros annibyniaeth i Asturies. Mae ganddi boblogaeth o 2,257 o drigolion ac mae'r ardal yn enwog iawn am ei chaws. Mae ganddi arwynebedd o 238.29 cilomedr sgwâr. Mae ychydig llai na hanner yr arwynebedd o fewn Parc Cenedlaethol y Picos de Europa, gan gynnwys Picu Urriellu, 2518m, (Sb. el Naranjo de Bulnes) sy'n denu dringwyr o bob rhan o'r byd, a Torrecerredo, 2648m, copa uchaf Asturies.
Mae'n rhannu ei ffin gogleddol gyda Llanes, i'r de gyda Cantabria a Leon, i'r dwyrain gyda Peñamellera Alta ac i'r gorllewin gyda Onís. Rhennir cyngor Cabrales yn 9 plwyf: Berodia, Bulnes, Carreña, Las Arenas, Poo, Prau (yn Sbaeneg: Prado), Puertas, Sotres a Tielve.
Y ganolfan ddinesig yw Carreña.
Y brif afon yw´r Cares, sy´n llifo i´r gogledd tuag at Arenas de Cabrales ac yna´n troi tua´r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Deva yn y ffin â Cantábria.
Fe'i croesir gan wahanol ffyrdd, yr AS-114 o Cangas de Onis i Panes, yr AS-345 sy'n mynd tuag at Peñamellera Alta, a'r AS-264 sy'n mynd tuag at Puente Poncebos a Sotres. Mae'n gyngor gwartheg arwyddocaol, gan yr orograffeg a'i phorfeydd, gan gael enwogrwydd ei laeth, ac ymhelaethir ar gaws Cabrales, o enwogrwydd rhyngwladol. Mae'r caws glas hwn yn cael ei gynhyrchu o laeth gwartheg, neu o gymysgedd o hwnnw gyda llaeth defaid a llaeth geifr, a'i gadw mewn ogofau i'w aeddfedu.
Puente Poncebos yw man cychwyn llwybr Ceunant Cares, taith gerdded poblogaidd iawn, 12 km i bentre Caín yn León. Mae llwybrau eraill, hir a byr, yn dechrau o Sotres, 1050m, pentref uchaf Asturies.
Un o´r trefi mwyaf pwysig yw Arenas de Cabrales, un o feysydd Brwydr El Mazucu ym 1937. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod economi Arenas yn seiliedig yn bennaf ar dwristiaeth, er yn wahanol i lawer o ganolfannau twristiaeth mae'n cadw ei harddull frodorol, hynafol.
Maestrefi
[golygu | golygu cod]Mae gan cymuned Cabrales 9 plwyf: