Diwrnodau Agored Nesaf
- Dydd Sadwrn, Gorffennaf 05, 2025
- Dydd Sul, Awst 17, 2025
- Dydd Sul, Hydref 12, 2025
- Dydd Sadwrn, Tachwedd 1, 2025
- Dydd Sadwrn, Tachwedd 22, 2025
Bydd modd archbu eich lle ar y Diwrnodau Agored uchod ym mis Ionawr 2025.
Ar Ddiwrnod Agored, byddwch yn:
- ael mwy o fanylion am eich pwnc
- yfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- weld y llety i fyfyrwyr
- ael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- ynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- mgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall.
Dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2025?
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig ym Medi 2025, dewch i'r Diwrnod Agored Bach ar Ddydd Gwener, 24 Ionawr 2025.
Wedi gwneud cais am gwrs yn cychwyn ym Medi 2025?
Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr drwy'r post / e-bost.
Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
Edrychwch ar ein tudalen sydd gyda'r holl wybodaeth am sut i gyrraedd y Diwrnod Agored, lle i barcio pan fyddwch wedi cyrraedd, a llefydd i aros yn ystod eich ymweliad.
Bydd y Diwrnod Agored yn ddiwrnod prysur felly dylech ddarllen y rhaglen a nodi popeth rydych yn gobeithio ei weld a’i wneud cyn dod i’r Diwrnod Agored.
Mae’n syniad ystyried yr holl gwestiynau posib cyn i chi ddod - efallai bod gennych gwestiynau i staff am y gofynion mynediad neu fodiwlau’r cwrs neu gwestiynau i fyfyrwyr presennol am fywyd myfyriwr ym Mangor e.e., y clybiau a’r cymdeithasau sydd yma.
Er bod rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol o fewn pellter cerdded i’r prif adeilad lle byddwch yn cofrestru ar ôl cyrraedd, byddwch yn synnu faint o waith cerdded byddwch yn ei wneud yn ystod diwrnod agored felly gwisgwch esgidiau cyffyrddus y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy’r dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch â chôt neu siaced gyda chi.
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?