Richard Adams
Roedd Richard George Adams, (9 Mai 1920-24 Rhagfyr 2016) yn nofelydd Seisnig.[1]
Richard Adams | |
---|---|
Ganwyd | Richard George Adams 10 Mai 1920 Newbury |
Bu farw | 24 Rhagfyr 2016 Rhydychen |
Man preswyl | Newbury |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, awdur, awdur ffuglen wyddonol, awdur plant, amgylcheddwr, bardd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Watership Down |
Arddull | ffantasi |
Tad | Evelyn Adams |
Priod | Barbara Elizabeth Acland |
Plant | Juliet Vera Lucy Adams, Rosamund Beatrice Elizabeth Adams |
Gwobr/au | Medal Carnegie, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant, Daytime Emmy Award for Outstanding Morning Program, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Silvert Award |
Ganwyd Adams yn Wash Common ger Newbury, Berkshire yn fab i Evelyn George Beadon Adams, meddyg, a Lilia Rosa (née Button ei wraig)
Addysgwyd Adams yng Ngholeg Bradford, Berkshire, a Choleg Worcester, Rhydychen, lle graddiodd gyda gradd mewn hanes modem. Tua diwedd gyrfa yn y gwasanaeth sifil (1948-74) ysgrifennodd Adams Watership Down (1972), a enillodd iddo Fedal Carnegie a daeth yn werthwr rhyngwladol gorau; fe'i ffilmiwyd yn 1978. Mae Watership Down yn llyfr plant am gartref cwningod, sydd yn cynnwys elfennau epig a naratif sy'n apelio hefyd at oedolion. Fe'i olynwyd gan Shardik (1974) a The Plague Dogs (1977; wedi ei droi'n ffilm ym 1982), sy'n gwrthwynebu y ddefnydd o anifeiliaid mewn labordai ymchwil. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys y nofelau The Girl in a Swing (1980), Maia (1984), a Traveller (1989); ysgrifennodd hefyd gasgliad o storïau byrion, The Iron Wolf (1980).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A Dictionary of Twentieth Century Biography, gol. Asa Briggs (Rhydychen, 1993)