Polder
Darn o dir isel wedi'i amgáu gan argloddiau sy'n ffurfio endid artiffisial hydrolegol yw polder (Ynganiad Iseldireg: [ˈpɔldər] (gwrando)). Mae hynny'n golygu nad oes ganddo gysylltiad â dwr allanol heblaw trwy ddyfeisiadau sy'n cael eu rheoli â llaw. Mae tri math o polder:
- Tir sydd wedi'i adfer o gorff o ddwr, megis llyn neu wely'r mor
- Gwastatir llifwaddod sydd wedi'i wahanu o'r mor neu afon gan arglawdd
- Corsydd sydd wedi'u gwahanu oddi wrth y dwr sy'n ei amgylchynu gan arglawdd ac sydd wedi'u traenio; mae rhain yn cael eu hadnabod hefyd fel koogs, yn arbennig yn yr Almaen
Mae lefel y tir mewn corsydd sydd wedi'u traenio yn suddo dros amser. Mae pob polder yn y pendraw yn gostwng o dan lefel y dwr o'u hamgylch naill ai ar adegau neu trwy'r amser. Mae dwr yn mynd i mewn i'r polder isel trwy ymdreiddiad o ganlyniad i bwysedd dwr o'r ddaear neu lawiad, neu trwy ddwr yn ei gyrraedd trwy afonydd neu gamlesi. Mae hyn fel arfer yn golygu bod gormod o ddwr yn y polder, sy'n cael ei bwmpio allan neu draenio naill ai trwy agor llifddor ar lanw isel. Rhaid cymryd gofal i beidio a gosod lefel y dwr mewnol yn rhy isel. Bydd tir sydd wedi'i wneud o fawn (a fu'n gors ar un adeg) yn suddo wrth i'r mawn bydru am ei fod yn agored i ocsygen o'r aer.
Mae bob amser perygl o lifogydd gyda polderau, a rhaid cymryd gofal er mwyn amddiffyn yr argloddiau amgylchynol. Mae argloddiau fel arfer yn cael eu hadeiladu gyda deunyddiau lleol, ac mae gan bob deunydd ei beryglon: gall tywod ddymchwel; mae mawn sych yn ysgafnach ond mewn perygl o fethu dal y dwr yn ystod y tymhorau sych. Mae rhai anifeiliaid yn tyllu twneli yn y cloddiau, ac mae hynny'n caniatau i'r dwr dreiddio'r strwythur; mae'r mwsglygoden yn cael ei hadnabod am y gweithgaredd hwn ac yn cael ei hela mewn rhai gwledydd Ewropeaidd o'r herwydd. Mae polderau gan amlaf i'w ganfod mewn aberoedd afonydd, tiroedd a fu unwaith yn gorstiroedd ac ardaloedd arfordirol.
Mae gorlifo polderau hefyd wedi'i ddefnyddio fel tacteg filwrol yn y gorffennol. Un enghraifft yw gorlifo polderau ar hyd afon Yser yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf. Trwy agor llifddorau ar lanw uchel a'u cau ar lanw isel, trowyd y polderau yn gorsydd anhygyrch er mwyn atal byddin yr Almaen.
Etymoleg
golyguO'r Iseldireg polder ("polder"), o Iseldireg Ganol polre, o'r Hen Iseldireg polra, ac yn y pen draw o pol- "rhan o dir, uwchlaw yr hyn sydd o'i amgylch"; gyda'r ôl-ddodiad cryfhaol -er a'r -d- epenthetigol.
Polderau a'r Iseldiroedd
golyguMae'r Iseldiroedd yn cael ei chysylltu'n aml â pholderau, oherwydd i'w pheirianwyr ddod yn adnabyddus am ddatblygu technegau ar gyfer draenio corstiroedd a'u gwneud yn addas i'w amaethu a'u datblygu mewn ffyrdd eraill. Mae dywediad i'w gael: "Creodd Duw y byd, ond yr Iseldirwyr greodd yr Iseldiroedd[1]".
Mae gan yr Iseldirwyr hanes o adfer corstiroedd, ac maent wedi creu tua 3,000 o bolderau[2] o amgylch y byd. Erbyn 1961 roedd 6,800 milltir sgwar (18,000 km2), tua hanner tir y wlad, wedi'i adfer o'r môr.[3] Mae tua hanner holl arwynebedd polderau yng ngogledd-orllewin Ewrop yn yr Iseldiroedd. Adeiladwyd yr argloddiau cyntaf yn Ewrop yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Adeiladwyd y polderau cyntaf yn yr 11g.
O ganlyniad i drychindebau naturiol, cafodd byrddau dŵr - waterschap (pan maent wedi'u lleoli i mewn i'r tir) neu hoogheemraadschap (ger y môr, yn bennaf yn rhanbarth Holand)[4] - eu sefydlu i gynnal yr amddiffynfeydd dŵr o amgylch y polderau, i gynnal y dyfrffyrdd o fewn i'r polderau, ac i reoli lefelau'r dŵr tu fewn a thu allan i'r polder. Mae byrddau dŵr yn cynnal etholiadau ar wahan, yn codi trethi, ac yn gweithio yn annibynnol o gyrff llywodraeth. Nid yw eu pwrpas sylfaenol wedi newid hyd heddiw. Rhain felly yw'r sefydliadau democrataidd hynaf yn y wlad. Rhoddodd y cydweithio ar bob lefel i gynnal amddiffynfeydd polder ei enw i'r fersiwn Iseldireg o wleidyddiaeth y drydedd ffordd— y Model Polder.
Ysgogodd trychineb llifogydd 1953 ddull newydd o ddylunio argloddiau a strwythurau eraill o ddal dŵr yn seiliedig ar y risg o lifogydd derbyniol. Mae risg yn cael ei ddiffinio fel cynnyrch tebygolrwydd a chanlyniadau. Mae'r difrod posibl i fywydau ac eiddo ynghyd â chostau ailadeiladu yn cael eu cymharu a chostau posibl yr amddiffynfeydd dŵr. Mae hynny yn arwain at risg o lifogydd derbyniol o'r môr o 1 mewn 4,000 i 10,000 o flynyddedd, tra ei fod yn un mewn 100 i 2,500 o flynyddoedd ar gyfer llifogydd afon. Mae'r polisi yma, a'r data am fygythliadau, wedi rhoi arweiniad i lywodraeth yr Iseldiroedd wrth wella amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Interpreting Nature: The Emerging Field of Environmental Hermeneutics
- ↑ "Kijk naar de geschiedenis". Rijkswaterstaat. Cyrchwyd 2008-01-21.[dolen farw]
- ↑ Ley, Willy (1 Hydref 1961). "The Home-Made Land". For Your Information. Galaxy Science Fiction. tt. 92–106.
- ↑ "waterschap". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-02.