Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Cwpan Pêl-droed Asia

Twrnamaint pêl-droed gwledydd Asia sy'n aelod o'r AFC

Mae Cwpan Pêl-droed Asia AFC yn cael ei gynnal bob 4 blynedd gan Gydffederasiwn Pêl-droed Asia - yr AFC. Ar ôl 2004, penderfynwyd symud y bencampwriaeth i osgoi gwrthdrawiad â thwrnameintiau eraill. Felly gohiriwyd y digwyddiad nesaf tan 2011.

Cwpan Pêl-droed Asia
Founded1956; 68 blynedd yn ôl (1956)
RegionAsia (Cyd-ffederasiwn Pêl-droed Asia)
Number of teams24 (finals)
46 (eligible to enter qualification)
Current champions Qatar
(1st title)
Most successful team(s) Japan (4 titles)
Websitewww.the-afc.com
2023 AFC Asian Cup
Tlws y Cwpan hyd nes 2015

Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf ym 1956. Mae Siapan, Iran a Arabia Sawdi i gyd wedi ennill deirgwaith yr un. Yn ogystal â'r cenhedloedd Asiaidd, mae Awstralia hefyd yn y twrnamaint. Mae Israel wedi cymryd rhan yn y gorffennol, ond wedi ymuno ag UEFA.

Y pencampwyr cyfredol yw Qatar wedi budduoliaeth o 3-1 dros Japan yn 2019.

Sefydlu

golygu

Cynigiwyd cystadleuaeth pan-Asiaidd gyntaf ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ni chafodd ei gweithredu tan y 1950au. Ddwy flynedd ar ôl i Gydffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC) ddod i fodolaeth ym 1954, cynhaliwyd y Cwpan Asiaidd AFC cyntaf erioed yn Hong Kong gyda saith o'r deuddeg aelod sefydlu yn cymryd rhan, gan wneud y twrnamaint yr ail hynaf yn y byd. Roedd y broses gymhwyso yn cynnwys y gwesteiwyr ynghyd ag enillwyr y gwahanol barthau (Canol, Dwyrain a Gorllewin). Twrnamaint pedwar tîm yn unig ydoedd, fformat a oedd hefyd yn bodoli ar gyfer 1960 a 1964. Mae pob is-gydffederasiwn eisoes yn cynnal eu pencampwriaeth bob dwy flynedd eu hunain, pob un â graddau amrywiol o ddiddordeb.[1]

Dangosodd De Corea ei rhagoriaeth ym mlynyddoedd cynnar y gystadleuaeth wrth i'r wlad orchfygu 1956 a 1960; mae hyn yn parhau i fod fel cyflawniadau gorau De Corea yn y twrnamaint.[2]

Crynodeb o'r enillwyr

golygu

Mae Cwpan Asia wedi ei ddominyddu gan lond dwrn o brif dimau. Y gwledydd cychwynnol llwyddiannus oedd De Corea ac Iran (tair waill ill dau). Er 1984 mae Siapan a Arabia Sawdi wedi bod y timau mwyaf llwyddiannus, gan ennill saith o'r deg ffeinal ddiwethaf. Y gwledydd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus yw Qatar (enillwyr 2015) ac Awstralia (enillwyr 2015). Irac (2007) a Cowait (1980). Bu i Israel ennill yn 1964 ond fe'i diarddelwyr o'r AFC gan ymuno ag UEFA (corff pêl-droed Ewrop).

Datblygiadau diweddar

golygu

Ymunodd Awstralia yr AFC yn 2007 gan gynnal twrnament Cwpan Asia yn 2015. Ehangwyd twrnament 2019 o 16 tîm i 24 gyda'r broses gymwyso yn dyblu hefyd fel ran o broses cymwyso ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[3][4] Yn y twrnamaint yn 2019 defnyddiwyd cynorthwy-ydd dyfarnu fideo (VAR) am y tro cyntaf.[5]

Enillwyr y Cwpan

golygu
Blwyddyn Enillydd Ffeinalist arall Gwlad cynnar
1956 Baner De Corea  De Corea De Corea Baner Israel  Israel Israel Baner Hong Cong  Hong Cong
1960 Baner De Corea  De Corea De Corea Baner Israel  Israel Israel Baner De Corea  De Corea
1964 Baner Israel  Israel Israel Baner India  India India Baner Israel  Israel
1968 Baner Iran  Iran Iran Baner Myanmar  Myanmar Myanmar Baner Iran  Iran
1972 Baner Iran  Iran Baner De Corea  De Corea De Corea Baner Gwlad Thai  Gwlad Thai
1976 Baner Iran  Iran Iran Baner Coweit  Coweit Cowait Baner Iran  Iran
1980 Baner Coweit  Coweit Cowait Baner Israel  Israel Israel Baner Coweit  Coweit Kuwait
1984 Baner Sawdi Arabia  Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Tsieina  Tsieina G.P. China Baner Singapôr  Singapôr
1988 Baner Sawdi Arabia  Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner De Corea  De Corea De Corea Baner Qatar  Qatar Qatar
1992 Baner Japan  Japan Japan Baner Sawdi Arabia  Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Japan  Japan
1996 Baner Sawdi Arabia  Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Emiradau Arabaidd Unedig  Emiradau Arabaidd Unedig EAU Baner Emiradau Arabaidd Unedig  Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
2000 Baner Japan  Japan Japan Baner Sawdi Arabia  Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Libanus  Libanus Libanus
2004 Baner Japan  Japan Japan Baner Tsieina  Tsieina C.P. China Baner Tsieina  Tsieina
2007 Baner Irac  Irac Irac Baner Sawdi Arabia  Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner India  India Baner Maleisia  Maleisia Baner Gwlad Tai  Gwlad Tai Baner Fietnam  Fietnam De Ddwyrain Asia
2011 Baner Japan  Japan Japan Baner Awstralia  Awstralia Awstralia Baner Qatar  Qatar Qatar
2015 Baner Awstralia  Awstralia Awstralia Baner De Corea  De Corea De Corea Baner Awstralia  Awstralia
2019 Baner Qatar  Qatar Baner Japan  Japan Baner Emiradau Arabaidd Unedig  Emiradau Arabaidd Unedig

Dolenni

golygu
Comin Wikimedia 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.amazon.in/Recurring-Sporting-Events-Established-1956/dp/1156748968
  2. "The AFC".
  3. "Revamp of AFC competitions". The-afc.com. 25 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2014.
  4. "AFC Asian Cup changes set for 2019". Afcasiancup.com. 26 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2014.
  5. "AFC plans to introduce VAR at UAE 2019". 27 September 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.