Iemen
Gweriniaeth Iemen ٱلْجُمْهُورِيَّةُ ٱلْيَمَنِيَّةُ (Arabeg) Ynganiad: al-Jumhūriyyatu l-Yamaniyyatu | |
Arwyddair | Duw, Gwlad, Chwyldro, Undod |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Sana'a, Aden |
Poblogaeth | 28,250,420 |
Sefydlwyd | 22 Mai 1990 (Unwyd) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Iemen |
Pennaeth llywodraeth | Maeen Abdulmalik Saeed |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Aden |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Arwynebedd | 555,000 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Coch, Môr Arabia |
Yn ffinio gyda | Sawdi Arabia, Oman |
Cyfesurynnau | 15.5°N 48°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Iemen |
Corff deddfwriaethol | llywodraeth Iemen |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arglwydd Iemen |
Pennaeth y wladwriaeth | Rashad al-Alimi |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Iemen |
Pennaeth y Llywodraeth | Maeen Abdulmalik Saeed |
Arian | Rial Iemen |
Canran y diwaith | 60 canran |
Cyfartaledd plant | 4.16 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.455 |
Gwlad yn ne-orllewin gorynys Arabia yw Gweriniaeth Iemen neu Iemen (Arabeg: اليَمَن). Y gwledydd cyfagos yw Sawdi Arabia i'r gogledd ac Oman i'r dwyrain. Yn y de mae gan y wlad arfordir ar y Môr Coch a Gwlff Aden. Sana'a yw prifddinas y wlad.
Mae ganddi dros 555,000 km sgwâr o arwynebedd a phoblogaeth o tua 24 miliwn (2010). Mae ei ffiniau yn cwmpasu dros 200 o ynysoedd, y mwyaf o'r rheiny ydy Socotra a leolir tua 415 km i'r de o'r tir mawr, ac i ffwrdd o arfordir Somalia. Hi yw'r unig wlad arabaidd sydd a llywodraeth gweriniaethol.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r wlad, sydd ag arwynebedd o 527,970 km sgwâr: tua'r un faint â Gwlad Tai – ac ychydig mwy na thalaith Califfornia, sy'n ei gwneud y 49fed gwlad mwyaf ei maint. Hyd at arwyddo cytundeb heddwch Iemen-Sawdi Arabia yng Ngorffennaf 2000, roedd ei ffiniau'n annelwig gan na all pobl fyw yn y diffeithwch hwn. Gellir rhannu'r wlad, yn ddaearyddol, yn bedair rhan: gwastatiroedd arfordirol y gorllewin, ucheldiroedd y gorllewin, ucheldiroedd y dwyrain a Rub al Khali yn y dwyrain.
Chwyldro 2011
[golygu | golygu cod]- Prif: Chwyldro Iemen
Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tiwnisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gynnwys protestiadau yn Iemen. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Iemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Iemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh. Trodd llawer o filwyr a swyddogion y llywodraeth at ochr y protestwyr. Ar y 23 Ebrill cytunodd Saleh i ymddiswyddo, ond gwrthododd i arwyddo'r cytundebau priodol; gwnaeth hyn dair gwaith.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan saeneg Reuters; adalwyd 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-20. Cyrchwyd 2011-01-20.
|