Timotheus
Timotheus | |
---|---|
Ganwyd | 17 Lystra |
Bu farw | 97 Effesus |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 22 Ionawr |
Mam | Eunice |
Cristion cynnar oedd Timotheus (Groeg: Τιμόθεος) a addolir fel sant gan rai eglwysi. Groegwr ydoedd o ran tras, fel mae ei enw yn dangos.
Ceir sawl traddodiad amdano. Yn y Testament Newydd ceir hanes yr Apostol Paul yn ei droi i'r ffydd Gristnogol newydd. Daeth yn ddisgybl iddo. Aeth gyda Paul ar ei deithiau cenhadol a derbyniodd sawl lythyr ganddo. Ceir Llythyrau Paul at Timotheus yn y Testament Newydd, sef 'Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus' ac 'Ail Lythyr Paul at Timotheus'. Maent yn rhan o gyfres o lythyrau gan Paul a geir yn llyfrau'r Testament Newydd. Eu prif bwnc yw trefn yr eglwys ac atal "athrawiaethau gau".
Daeth Timotheus yn esgob cyntaf Ephesus yn Asia Leiaf, yn ôl Eusebius. Gwyddys fod Paul wedi ymweld â'r ddinas hynafol honno. Yn ôl y testun apocryffaidd Actau Timotheus, sydd ddim yn cael ei dderbyn fel llyfr Beiblaidd canonaidd, lladdwyd Timotheus gan dorf a'i drawodd gyda cherrig a phastynau mewn gŵyl gysegredig i'r dduwies Diana ('Diana'r Effesiaid', chwedl y Testament Newydd) am ei fod yn gwrthwynebu'r crefyddau paganaidd. Fe'i cofir fel merthyr a sant felly, yn enwedig yn yr eglwysi Uniongred ond hefyd yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Eglwys Anglicanaidd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Thames and Hudson, 1983).