Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gwyndodeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wyndodeg)

Gwyndodeg yw tafodiaith Gymraeg gogledd-orllewin Cymru. Fe'i gelwir yn Wyndodeg am fod ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i diriogaeth yr Wynedd hanesyddol. Daw'r gair o'r enw Gwyndyd ('Gwynedd'; 'pobl Gwynedd'), hen ffurf ar y gair Gwynedd, sy'n dod o'r gair Brythoneg (tybiedig) Uenedoti (sail y gair Lladin Canol Venedotia, Gwynedd).

Clywir y Wyndodeg heddiw yn siroedd Môn, Gwynedd, a gorllewin Conwy. I'r dwyrain mae'r Wyndodeg yn troi'n Bowyseg yn ardal Clwyd. Ceir sawl tafodiaith leol o fewn y Wyndodeg yn ogystal - is-dafodieithoedd fel petai - a gellid sôn am Wyndodeg Môn, Gwyndodeg Arfon, Gwyndodeg Llŷn ac Eifionydd, a Gwyndodeg Meirionnydd. Un yr un modd ag y mae'r brif dafodiaith, y Wyndodeg, yn perthyn i diriogaeth hen deyrnas Gwynedd y mae'n diddorol nodi bod yr is-dafodieithoedd hyn (a nodweddir gan wahaniaethu geirfa ac acen yn bennaf) yn perthyn yn fras i'r hen gantrefi a chymydau: mae seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg yn hen iawn.

Nodweddion Seinegol

[golygu | golygu cod]
Ffonem / llythyren Disgrifiad Enghraifft
u Mewn sillaf dan bwyslais, ceir llafariad anghrwn ganolog gaeedig [ɨ] Sul [sɨːl]
dau [daːɨ]
huno ['hɨno]
Frwydrolion "caled" c, t, p Ceir anadliad caled ym mhob safle creu [kʰreːɨ]
atgas ['atʰgas]
hap [hapʰ]
Ffrwydrolyn "meddal" g Ychydig iawn o leisio a geir. gogledd [g̥og̥ɫeð]
Ffrwydrolyn "meddal" d Gall fod yn ddeintiol-gorfannol. Ychydig iawn o leisio. dydd [d̪ɨːð]
adran ['ad̥ran]
rhad [rʰaːd̥]
l Ynganiad felar [ɫ] ym mhob safle lon [ɫoːn], cloi [kɫoːi]
hela ['heɫa]
ôl [oːɫ], sgil [skiːɫ]
e diacen yn y sillaf olaf [a] halen ['haɫan], cyllell ['kʰəɬaɬ]
-au diacen ar ddiwedd gair [a] wrth llefaru'n gyflym pethau ['pʰeθa], geiriau ['g̥eirja]
ond dau [d̥au]
-nn- dyblyg Ceir n dyblyg sy'n sylweddol hwy nac n sengl hanner ['hanːar]

Dosbarthiad Daearyddol

[golygu | golygu cod]

Mae'r ffin ieithyddol hyn yn rhedeg o gyffiniau Bae Colwyn yn y gogledd i Aberdyfi yn y de ac yn gyfateb yn fras i'r hen Sir Wynedd, ac eithrio Penllyn yn y dwyrain a de-ddwyrain Sir Feirionnydd.

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]

Un o'r cyfraniadau pwysicaf i astudiaethau ar y Wyndodeg yw cyfrol arbennig yr ieithgi Osbert Henry Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District, sy'n cyflwyno geirfa helaeth a gasglwyd o lafar gwlad yn bennaf yn yr ardal o gwmpas Bangor, Gwynedd. Er ei fod yn astudiaeth o dafodiaith gogledd-ddwyrain yr hen Sir Gaernarfon mae nifer o elfennau yn y dafodiaith honno i'w gweld yng ngweddill tiriogaeth y Wyndodeg hefyd.

Dros y blynyddoedd mae nifer o lyfrau wedi ymddangos sydd naill ai wedi'u sgwennu yn y dafodiaith neu'n cynnwys deialog ynddi. Gellid crybwyll gwaith cynnar Kate Roberts (e.e. Traed Mewn Cyffion a Te yn y Grug), Un Nos Ola Leuad Caradog Prichard, nofelau Angharad Tomos a dramâu Wil Sam (e.e. Toblerôn).

Rhai geiriau ac ymadroddion

[golygu | golygu cod]
  • cur yn y pen - pen tost (gwayw yn y pen yw'r ymadrodd mewn rhannau o Lŷn).
  • lobsgows - cawl, math o stiw o gig, tatws a llysiau (gair benthyg o'r Saesneg dafodieithol labscouse gan bobl Lerpwl; tarddiad y gair Scouser yn Saesneg); hefyd 'llanast' fel trosiad.
  • stomp - llanast, blerwch
  • mae gyna fo gnonyn yn ei din! - am rywun sydd ddim yn medru cadw'n llonydd (cnonyn, 'cynrhonyn')

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • O.H. Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District (Rhydychen, 1913)
  • Bedwyr Lewis Jones, Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1987)
  • Henry Sweet, "Spoken North Welsh", yn Transactions of the Philological Society, 1882-4 (Rhan III), tt. 409-484
  • Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (Caerdydd, 1973)
  • J.E. Caerwyn Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]