Gweriniaeth Iwerddon
Poblacht na hÉireann (Gwyddeleg) Ireland (Saesneg) | |
Arwyddair | Éirinn go Brách (Iwerddon am Byth) |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth olynol |
Enwyd ar ôl | Iwerddon |
Prifddinas | Dulyn |
Poblogaeth | 5,149,139 |
Sefydlwyd | 24 Ebrill 1916 (Cyhoeddi Annibyniaeth) 21 Ionawr 1919 (Datganiad o Annibyniaeth) |
Anthem | Amhrán na bhFiann |
Pennaeth llywodraeth | Leo Varadkar |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Gwyddeleg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop |
Arwynebedd | 69,797 km² |
Yn ffinio gyda | y Deyrnas Unedig, Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53°N 8°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Iwerddon |
Corff deddfwriaethol | Oireachtas |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Iwerddon |
Pennaeth y wladwriaeth | Michael D. Higgins |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Taoiseach |
Pennaeth y Llywodraeth | Leo Varadkar |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $504,183 million, $529,245 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 4.95, 5.623, 6.194, 4.479 |
Cyfartaledd plant | 1.96 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.945 |
Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn "Uachtarán" neu Arlywydd, ond y "Taoiseach" ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw "Gweriniaeth Iwerddon" i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir. Cyn cyhoeddi'r Weriniaeth yn gyfasoddiadol, galwyd y wladwriaeth yn Gwladwriaeth Rydd Iwerddon.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Iwerddon
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Carrauntoohil (Gwyddeleg: Corrán Tuathail), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd "Gweriniaeth Iwerddon". Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
Cyfansoddiad 1937
[golygu | golygu cod]Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. Mae Cyfansoddiad Iwerddon mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
Deddf Gweriniaeth Iwerddon
[golygu | golygu cod]Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw "Deddf Gweriniaeth Iwerddon" a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon
[golygu | golygu cod]Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw "y Weriniaeth Wyddelig" (Saesneg: The Irish Republic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
Defnyddir yr enw "Gweriniaeth Iwerddon" (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
Siroedd
[golygu | golygu cod]- Prif: Siroedd Iwerddon
Yn draddodiadol, rhennir ynys Iwerddon yn 32 o siroedd. O'r rhain, mae 26 yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chwech yng Ngogledd Iwerddon.
Map o'r siroedd
[golygu | golygu cod]Sylwer nad yw'r siroedd hyn yn cyfateb ym mhob achos i'r unedau gweinyddol presennol.
Gweriniaeth Iwerddon
|
Gogledd Iwerddon
|
Rhestr yn nhrefn yr wyddor
[golygu | golygu cod]Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Átha Cliath Theas / County of South Dublin; (ii) Contae Fine Gall / County of Fingal; (iii) Contae Dún Laoghaire–Ráth an Dúin / County of Dún Laoghaire-Rathdown.
Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Economi
[golygu | golygu cod]
|