Leonard Meredith
Gwedd
Leonard Meredith | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 1882 Llundain |
Bu farw | 27 Ionawr 1930 Davos |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Seiclwr rasio Seisnig oedd Leonard Leon Lewis Meredith (ganwyd 2 Chwefror 1882, Pancras, Llundain – bu farw 27 Ionawr 1930, Llundain). Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1908, 1912 ac 1920.
Yn 1908, cystadlodd ar y trac. Roedd yn rhan o dîm buddugol Prydain yn y Pursuit Tîm, yn y ras tandem aeth allan o'r gystadleuaeth yn y rownd gyn-derfynol. Yn rasus 20 kilomedr a 100 kilomedr, cymerodd Meredith ran yn y rownd derfynol ond ni oreffennodd y ras.
Cystadlodd yn y ras ffordd yn 1912 ac 1920. Bu'n ras o dîm a enillodd fedal arian yn y Treial Amser Tîm yn 1912. Gorffennodd yn y bedwerydd safle yn y Treial Amser unigol yn 1920 ac 18fed yn y ras ffordd, ni orffenodd ei dîm y ras ffordd tîm yn 1920.
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- Llun o Meredith gyda aelodau eraill o dîm buddugol y Pursuit Tîm yng Ngemau Olympaidd 1908 Archifwyd 2009-04-15 yn y Peiriant Wayback