Ffransis II, Dug Llydaw
Ffransis II, Dug Llydaw | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mehefin 1435 Château de Clisson |
Bu farw | 9 Medi 1488 Koeron |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Richard, Count of Étampes |
Mam | Marguerite, Countess of Vertus |
Priod | Margaret of Brittany, Margaret of Foix |
Partner | Antoinette de Maignelais |
Plant | Francesc I d'Avaugour, François de Dreux, Antoine de Maignelais, Françoise de Maignelais, Anna, Duges Llydaw, Isabeau o Lydaw |
Llinach | House of Dreux |
Dug Llydaw oedd Ffransis II (23 Mehefin 1435 – 9 Medi 1488).[1] Roedd yn fab i Richard o Lydaw a Marguerite, Cowntes Vertus. Roedd yn Ddug Llydaw rhwng 1458 a'i farwolaeth yn 1488. Priododd ddwywaith: y tro cyntaf i'w gyfnither Marged (1469 - 1500) a oedd yn ferch i Francis 1af a'r ail dro i Farged Foix (1449 - 1486) a oedd yn ferch i Elinor o Navarre o Sbaen a'r Brenin John II o Aragon. Un ferch yn unig a oroesodd yn oedolyn: Anna, Duges Llydaw, ond cafodd dau fab gyda'i feistres Antoinette de Maignelais.
Roedd ei fywyd yn un brwydr ar ôl y llall gyda Louis XI, brenin Ffrainc a'i fab Siarl. Cafwyd cytundeb tra phwysig o'r enw Cytundeb Chateaubriant, a arwyddwyd yn 1487, a gadarnhaodd statws Llydaw fel gwlad annibynnol ond trechwyd François ym Mrwydr Saint-Aubin-du-Cormier. Yn dilyn y frwydr hon, collodd lawer o'i diroedd a'r hawl i briodi ei blant i bobl o'i ddewis ef yn unol â Chytundeb Sablé. Gan frenin Ffrainc, bellach, oedd yr hawl i ddewis cymar, a phan bu Ffransis farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn Couëron, Brenin Ffrainc ddewisodd cymar i Anna. Dewisodd ei fab ei hun, sef Siarl VIII, ac yna Louis XII.
Siasbar a Harri Tudur
[golygu | golygu cod]Francis II a roddodd loches i Siasbar Tudur a'i nai pedair ar ddeg oed Harri (a ddaeth rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn Frenin Lloegr). Roeddent wedi dianc o grafangau Edward IV a oedd newydd gipio Coron Lloegr ym Mrwydr Tewkesbury yn 1471. Ceisiodd Edward IV, a oedd o deulu'r Iorciaid 'brynnu' Siasbar a Harri ar sawl achlysur, er mwyn dod â bygythiad y Lancastriaid i ben unwaith ac am byth. Rhoddodd Louis XI, Brenin Ffrainc, gryn bwysau arno, hefyd, i drosglwyddo'r ddau iddo, gan ei fod yn gefnder cyntaf i Siasbar. Penderfyniad Ffransis yn 1474 oedd gwahanu'r ddau gan drosglwyddo Siasbar i Gastell Josselin, 25 milltir o Gwened (Vannes) lle y bu tan 1475 a Harri i 'Gastell yr Un Tŵr ar Ddeg' (Ffrangeg: Château de Largoët), dan ofalaeth Jean de Rieux.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Susan Groag Bell (29 November 2004). The Lost Tapestries of the City of Ladies: Christine de Pizan’s Renaissance Legacy (yn Saesneg). University of California Press. t. 97. ISBN 978-0-520-92878-7.
- ↑ Bosworth gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 98
Rhagflaenydd: Arthur III |
Dug Llydaw 1458–1488 |
Olynydd: Anna |