Esgid
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Esgidiau)
Dilledyn sy'n cael ei wisgo er mwyn amddiffyn y droed ydy esgid. Mae'r droed yn cynnwys mwy o esgyrn nag unrhyw darn arall o'r corff. Dim ond yn ddiweddar mae rhan fwyaf o boblogaeth y byd wedi dechrau gwisgo esgidiau, yn bennaf oherwydd nad oeddynt yn gallu eu fforddio. Mae esgidiau wedi newid a datblygu llawer dros y canrifoedd.
Gelwir crefftwr sy'n gwneud a thrwsio esgidiau yn grydd.
Darnau'r esgid
[golygu | golygu cod]- Gwadn - Gwaelod yr esgid.
- Mewnwadn - Darn o ddefnydd sy'n eistedd o dan y droed. Mae'n bosib ychwanegu mewnwadn arall oherwydd rhesymau iechyd.
- "Outsole" - Yr "outsole" ydy'r haen sy'n cyffwrdd y llawr. Mae'r "outsole" yn gallu cael ei wneud o ledr neu rwber.
- Sawdl - Ôl gwaelod yr esgid ydy'r sawdl. Fel arfer maent yn cael eu gwneud o'r un defnydd â'r gwadn. Mae'r darn yma yn gallu fod yn uchel ar gyfer ffasiwn neu i wneud i'r gwisgwr edrych yn dalach neu'n wastad ar gyfer defnydd ymarferol.