Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Einion Yrth ap Cunedda

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Einion Yrth)
Einion Yrth ap Cunedda
Ganwyd420 Edit this on Wikidata
Gododdin Edit this on Wikidata
Bu farw500 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadCunedda Edit this on Wikidata
MamGwawl ferch Coel Hen Edit this on Wikidata
PlantCadwallon Lawhir, Meirian ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig ab Brenin Prydain, Owain Ddantgwyn Edit this on Wikidata

Roedd Einion ap Cunedda (420? - 500?), a elwir gan amlaf yn Einion Yrth yn un o frenhinoedd cynharaf Gwynedd. Fe'i cysylltir hefyd â chantref Caereinion ym Mhowys.

Hanes a thraddodiad

[golygu | golygu cod]

Roedd Einion yn fab i Gunedda Wledig, a chredir iddo ddod i Wynedd o'r Hen Ogledd (yn ne'r Alban heddiw) gyda'i dad rywbryd cyn 450 i ymladd yn erbyn y Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu yno. Wedi marwolaeth Cunedda, efallai tua 460, Einion a etifeddodd y diriogaeth a fyddai'n datblygu i fod yn deyrnas Gwynedd.

Yn ôl y traddodiad roedd ganddo saith o frodyr; rhoddodd ei frawd Ceredig ei enw i Geredigion, a'i nai Meirion, mab ei frawd Tybion, ei enw i Feirionnydd (mae nifer o ysgolheigion yn credu erbyn heddiw mai ymgais i esbonio'r enwau lleol yw'r traddodiad am hynny). Y brodyr eraill oedd Rhufon (sefydlydd Rhufoniog), Dunod (Dunoding), Aflog (Aflogion yn Llŷn), Dogmael (Dogfeiling), ac Edern (Edeirnion).

Sefydlodd Einion gantref Caereinion ym Mhowys. Prif ganolfan eglwysig y cantref oedd Llanfair Caereinion. Gerllaw ceir hen amddiffynfa Caereinion a gysylltir, yn ôl traddodiad, ag Einion Yrth.

Roedd Einion yn dad i'r brenin Cadwallon Lawhir o Wynedd ac yn daid trwyddo i'r brenin Cynlas (efallai), a grybwyllir gan Gildas fel teyrn "paganaidd" a wrthododd dderbyn Cristnogaeth. Yn ôl un o'r Achau traddodiadol, roedd yr arwr Gwgon Gleddyfrudd yn fab iddo, ond nid oes sicrwydd am hynny.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). D.g. Cunedda.
  • M.P. Charlesworth, The Lost Province (Darlithoedd Gregynog, 1948, 1949)
  • J. E. Lloyd, History of Wales to the Edwardian conquest (3ydd arg., Llundain, 1939)
O'i flaen :
Cunedda Wledig
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cadwallon Lawhir