Emoji
Arwyddlun sy'n cael ei ddefnyddio mewn negeseuon electronig a thudalennau gwe yw emoji. Maent yn bodoli mewn nifer o ffurfiau, yn cynnwys edrychiadau neu ystumiau'r wyneb, gwrthrychau cyffredin, lleoedd a mathau o dywydd, ac anifeiliaid. Maent yn debyg iawn i emoticonau, ond mae emoji yn lluniau yn hytrach na theipograffigau.[1] Daw'r gair emoji o'r Japaneg e (絵, "llun") + moji (文字, "llythyren" neu "arwyddnod"); cyd-ddigwyddiad yw'r tebygrwydd i'r geiriau 'emosiwn' ac 'emoticon'.[2] Y cod sgript ISO15924 ar gyfer emoji yw Zsye
.
Yn deillio o ffonau symudol Siapaneaidd ym 1997, daeth yr emoji yn fwyfwy poblogaidd ledled y byd yn 2010au ar ôl cael eu hychwanegu at nifer o systemau gweithredu ffonau symudol.[3][4] Erbyn hyn ystyrir eu bod yn rhan fawr o ddiwylliant poblogaidd yn y gorllewin.[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Rhagflaenwyd yr emoji gan yr emoticon testun[6] a mathau eraill o gynrychioliadau graffigol, o fewn a thu allan i Japan.[7][8]
Cafodd y ffôn symudol cynharaf y gwyddys amdano a oedd yn cynnwys set o emoji ei ryddhau yn Japan gan J-Phone ar 1 Tachwedd 1997. Roedd y set o 90 emoji yn cynnwys llawer a fyddai'n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach at y Safon Unicode, fel Tomen o Ddom, ond ni chawsant eu defnyddio'n eang ar y pryd am fod y ffôn yn ddrud iawn i'w brynu.[9]
Yn 1999, creodd Shigetaka Kurita y set gyntaf o emoji a ddefnyddiwyd yn eang.[10][11] Roedd yn aelod o'r tîm oedd yn gweithio ar lwyfan Rhyngrwyd symudol i-mode NTT DoCoMo.[12] Cymerodd Kurita ysbrydoliaeth o ragolygon y tywydd a oedd yn defnyddio symbolau i ddangos y tywydd, arwyddluniau Tsieineaidd ac arwyddion stryd, ac o Manga a oedd yn defnyddio symbolau stoc i fynegi emosiynau, megis bylbiau golau fel arwydd o ysbrydoliaeth.[12][13][14] Defnyddiwyd Emoji i ddechrau (gweler diwylliant ffonau symudol Japan) gan gwmnïau ffonau symudol Japan, NTT DoCoMo, au, a SoftBank Mobile (Vodafone gynt). Diffiniodd y cwmnïau hyn eu hamrywiadau emoji eu hunain gan ddefnyddio safonau perchnogol. Crëwyd y set gyntaf o emoji 12 × 12 picsel ar gyfer negeseuon i-mode i helpu i hwyluso cyfathrebu electronig, ac i fod yn nodwedd oedd yn eu gwahaniaethu oddi wrth wasanaethau eraill.[3] Creodd Kurita y 180 emoji cyntaf yn seiliedig ar yr wynebau a welai bobl yn eu gwneud, a phethau eraill, yn y ddinas.[14]
Ers 2010, mae rhai setiau o arwyddluniau emoji wedi'u hymgorffori i Unicode, system safonol ar gyfer mynegeio arwyddnodau, sydd wedi eu galluogi i gael eu defnyddio y tu allan i Japan ac i gael eu safoni ar draws gwahanol systemau gweithredu.
Mae poblogrwydd emoji wedi arwain at bwysau gan werthwyr a marchnadoedd rhyngwladol i ychwanegu dyluniadau i safon Unicode i gwrdd â gofynion gwahanol ddiwylliannau. Ychwanegodd Unicode 7.0 tua 250 emoji, nifer ohonynt o'r ffontiau Webdings a Wingdings.[15] Mae rhai arwyddnodau sydd bellach wedi'u diffinio fel emoji yn cael eu hetifeddu o amrywiaeth o systemau negesu cyn Unicode, ac nid rhai a ddefnyddiwyd yn Japan yn unig, gan gynnwys Yahoo a MSN Messenger.[16] Ychwanegodd Unicode 8.0 41 emoji arall, gan gynnwys gwrthrychau sy'n offer chwaraeon fel yr bat criced, eitemau bwyd fel y taco, arwyddion y Sidydd, ystumiau wyneb newydd, a symbolau ar gyfer addoldai.[17] Mae galw corfforaethol am safoni emoji wedi rhoi pwysau ar Gonsortiwm Unicode, gyda rhai aelodau'n cwyno ei fod wedi goddiweddyd ffocws traddodiadol y grŵp ar safoni arwyddnodau a ddefnyddir ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a thrawsgrifio cofnodion hanesyddol.[18]
Mae arwyddnodau emoji yn amrywio ychydig rhwng platfformau o fewn y cyfyngiadau ystyr a ddiffinnir gan fanyleb Unicode, wrth i gwmnïau wedi geisio ychwnaegu elfennau artistig i syniadau a gwrthrychau.[19] Er enghraifft, yn nhraddodiad Apple, mae'r emoji calendr ar gynnyrch Apple bob amser yn dangos 17 Gorffennaf, y dyddiad y cyhoeddodd y cwmni ei ap calendr iCal ar gyfer macOS yn 2002. Arweiniodd hyn at rai defnyddwyr cynnyrch Apple i alw Gorffennaf 17 yn "Ddiwrnod yr Emoji".[20] Mae ffontiau emoji eraill yn dangos dyddiadau gwahanol neu ddim yn dangos unrhyw ddyddiad penodol.[21]
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd dadansoddiad teimladau o emoji,[22] a darparwyd Graddfa Teimlad Emoji 1.0.[23] Yn 2016, perfformiwyd sioe gerdd am emoji am y tro cyntaf yn Los Angeles,[24][25] a rhyddhawyd y ffilm animeiddiedig The Emoji Movie yn haf 2017.[26][27]
Ym mis Ionawr 2017, yn yr hyn y credir yw'r astudiaeth raddfa-eang gyntaf o ddefnydd emoji, dadansoddodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Michigan dros 1.2 biliwn o negeseuon a fewnbynnwyd drwy Allweddell Kika Emoji [28] a chyhoeddwyd mai'r emoji o wyneb gyda dagrau o lawenydd oedd yr emoji mwyaf poblogaidd. Daeth y llygaid fel calonnau yn ail a'r emoji calon yn drydydd. Roedd yr astudiaeth yn dangos gwahaniaethau rhwng diwylliannau: y Ffrancwyr oedd yn defnyddio'r emoji calon fwyaf aml,[29] roedd pobl Awstralia, Ffrainc a'r Weriniaeth Tsiec yn gwneud mwy o ddefnydd o'r emoji hapis, tra nad oedd hyn yn wir am bobl ym Mecsico, Colombia, Chile a'r Ariannin, lle roedd pobl yn defnyddio emoji mwy negyddol o gymharu â chanolfannau diwylliannol a oedd yn cael eu gweld yn fwy ymataliol a hunanddisgybledig, fel Twrci, Ffrainc a Rwsia.[30]
Problemau cyfathrebu gydag emoji
[golygu | golygu cod]Mae ymchwil wedi dangos bod emoji yn aml yn cael ei gamddeall. Mewn rhai achosion, mae'r camddealltwriaeth hwn yn gysylltiedig â sut y caiff y dyluniad emoji ei ddehongli gan y derbynnydd;[31] mewn achosion eraill, nid yw'r emoji a anfonwyd yn cael ei ddangos yn yr un ffordd ar yr ochr sy'n ei dderbyn.[32]
Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â dehongliad diwylliannol neu gyd-destunol yr emoji. Pan fydd yr awdur yn dewis emosiwn, maen nhw'n meddwl amdano mewn ffordd benodol, ond efallai na fydd yr un arwyddlun yn sbarduno'r un meddyliau ym meddwl y derbynnydd.[33]
Er enghraifft, mae pobl yn Tsieina wedi datblygu system ar gyfer defnyddio emoji yn gynnil, fel y gellid anfon wyneb hapus i gyfleu agwedd ddirmygus, watwarus, a hyd yn oed yn annymunol, am nad yw'r orbicularis oculi (y cyhyr ger y gornel uchaf llygad) ar wyneb yr emoji yn symud, ac mae'r orbicularis oris (yr un ger y geg) yn tynhau, a chredir ei fod yn arwydd o atal gwên.[34]
Mae'r ail broblem yn ymwneud â thechnoleg a brandio. Pan fydd awdur neges yn dewis emoji o restr, caiff ei amgodio fel arfer mewn modd an-graffigol yn ystod y trosglwyddiad, ac os nad yw'r awdur a'r darllenydd yn defnyddio'r un feddalwedd neu system weithredu ar gyfer eu dyfeisiau, gall dyfais y darllenydd gyflwyno'r un emoji mewn ffordd wahanol. Gall newidiadau bach i olwg arwyddlun newid ei ystyr canfyddedig yn llwyr gyda'r derbynnydd.
Emoji, Cymru a'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Bathwyd y gair gwenoglun gan Nic Dafis ar gyfer emoticon wrth gyfieithu pecyn meddalwedd phpBB i'r Gymraeg yn 2002. Roedd hynny yn bennaf oherwydd fod y meddalwedd yn cyfeirio at 'smileys' - ffordd o osod gwynebau bychain o fewn neges.[35] Daeth y term yn boblogaidd ar wefan drafod Maes-e ond prin yw'r defnydd bellach ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i'r defnydd o emojis ddisodli yr hen arddull testunol. Gwelir y defnydd o gwennoglun (sic) wrth gyfeirio at emoji [36] mewn erthygl gan Rhoslyn Prys ym mis Tachwedd 2015.
Cafwyd cyflwyniad ar yr emoji fel yr 'iaith newydd sy'n tyfu gyflymaf gan Dr Viv Evans o Brifysgol Bangor yn 2015 yn nodi twf yn y defnydd o'r ieithwedd.[37] ac holwyd "a yw emojis yn iaith?" ar BBC Radio Cymru yn 2016.[38]
Ar 26 Ionawr 2017 cyhoeddwyd y byddai Unicode yn rhyddhau baner Cymru yn emoji ar gael yn gyhoeddus.[39] Gwnaed hyn yn dilyn ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The term from Emoji". Dizhaowa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-17. Cyrchwyd 2023-04-25.
- ↑ Taggart, Caroline (5 Tachwedd 2015). "New Words for Old: Recycling Our Language for the Modern World". Michael O'Mara Books. Cyrchwyd 25 Hydref 2017 – drwy Google Books.
Hard on the heels of the emoticon comes the Japanese-born emoji, also a DIGITAL icon used to express emotion, but more sophisticated in terms of imagery than those that are created by pressing a colon followed by a parenthesis. Emoji is made up of the Japanese for picture (e) and character (moji), so its resemblance to emotion and emoticon is a particularly happy coincidence.
- ↑ 3.0 3.1 Blagdon, Jeff (4 Mawrth 2013). "How emoji conquered the world". The Verge. Vox Media. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2013.
- ↑ "Android – 4.4 KitKat". android.com.
- ↑ "How Emojis took center stage in American pop culture". NBC News. 17 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Happy 30th Birthday Emoticon!". Independent. 8 Medi 2012. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ "Why Do We Use Emojis Anyway? A Fascinating History of Emoticons". Readers Digest. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ "Emoji 101". Overdrive Interactive. 14 Hydref 2015. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ Alt, Matt (7 Rhagfyr 2015). "Why Japan Got Over Emojis". Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
- ↑ Steinmetz, Katy (16 Tachwedd 2015). "Oxford's 2015 Word of the Year Is This Emoji". Time. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
- ↑ Sternbergh, Adam (16 Tachwedd 2014). "Smile, You're Speaking Emoji".
- ↑ 12.0 12.1 Negishi, Mayumi (26 Mawrth 2014). "Meet Shigetaka Kurita, the Father of Emoji". Wall Street Journal. Cyrchwyd 16 Awst 2015.
- ↑ "NTT DoCoMo Emoji List". nttdocomo.co.jp.
- ↑ 14.0 14.1 Nakano, Mamiko. "Why and how I created emoji: Interview with Shigetaka Kurita". Ignition. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2016. Cyrchwyd 16 Awst 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Host of New Characters and Emoji Introduced in Unicode 7.0". Hexus. 17 Mehefin 2014. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ "Emoji Additions: Animals, Compatibility, and More Popular Requests; Emoji tranche 5" (PDF). Unicode. Cyrchwyd 18 Awst 2015.
- ↑ "Unicode 8.0.0". Unicode Consortium. Cyrchwyd 17 Mehefin 2015.
- ↑ Warzel, Charlie. "Inside 'Emojigeddon': The Fight Over The Future of the Unicode Consortium". Buzzfeed. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
- ↑ Allsopp, Ashleigh (15 Rhagfyr 2014). "Lost in translation: Android emoji vs iOS emoji". Tech Advisor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 15 Awst 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Varn, Kathryn (17 Gorffennaf 2015). "Letting Our Emojis Get in the Way". The New York Times. Cyrchwyd 25 Awst 2015.
- ↑ "Calendar emoji". Emojipedia. Cyrchwyd 15 Awst 2015.
- ↑ Kralj Novak, P.; Smailović, J.; Sluban, B.; Mozetič, I. (2015). "Sentiment of Emojis". PLoS ONE 10 (12): e0144296. arXiv:1509.07761. doi:10.1371/journal.pone.0144296. http://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0144296.
- ↑ "Emoji Sentiment Ranking". Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015.
- ↑ Gans, Andrew (12 Ebrill 2016). "New Musical About Emojis Will Premiere in Los Angeles". Playbill. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2016.
- ↑ Cary, Stephanie (14 Ebrill 2016). "'Emojiland' is bringing your phone's emojis to life in LA". Timeout. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2016.
- ↑ Fleming, Mike Jr. (Gorffennaf 2015). "Emoji at Center of Bidding Battle Won By Sony Animation; Anthony Leondis To Direct". Deadline. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Lawrence, Derek (27 Gorffennaf 2017). "The Emoji Movie: Here's what the critics are saying". Entertainment Weekly. Cyrchwyd 13 Awst 2017.
- ↑ "Emojis: How We Assign Meaning to These Ever-Popular Symbols". University of Michigan. 19 Mai 2017. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ "People Around the World Use These Emojis The Most". Futurity. 3 Ionawr 2017. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ "'Face with tears of joy' is the most popular emoji, says study". The Hindu. 12 Ionawr 2017.
- ↑ Larson, Selena (11 Ebrill 2016). "Emoji can lead to huge misunderstandings, research finds". Daily Dot. Cyrchwyd 30 Mawrth 2017.
- ↑ Miller, Hannah (5 Ebrill 2016). "Investigating the Potential for Miscommunication Using Emoji". Grouplens. Cyrchwyd 30 Mawrth 2017.
- ↑ "What the Emoji You're Sending Actually Look Like to Your Friends". Motherboard. 12 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
- ↑ "Chinese people mean something very different when they send you a smiley emoji". Quartz. 29 Mawrth 2017.
- ↑ Roberts, Sian (22 Awst 2011). Re: emoticons/smileys etc termau negeseua gwib!!. welsh-termau-cymraeg.
- ↑ https://haciaith.cymru/2015/11/20/wordpress-ios-ar-gael-yn-gymraeg/
- ↑ https://www.bangor.ac.uk/languages-literatures-and-linguistics/newyddion/emoji-yn-iaith-newydd-sy-n-tyfu-gyflymaf-22835
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/b07tllxv
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38762050