David Davies (nofiwr)
David Davies | |
---|---|
Ganwyd | David Michael Rhys Davies 3 Mawrth 1985 Caerdydd, y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofiwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Nofiwr pellter hir o Gymru yw David Davies (ganwyd 3 Mawrth 1985, Y Barri).[1] Cystadlodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion. Cymreodd ran ym Mhencapwriaethau Iau Ewrop tra'n dal yn ei arddegau,lle enillodd fedal aur yn 2003. Mae'n arbenigo yn y ras steil rhydd 1,500 metr. Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004 yn Athen, lle cipiodd y fedal efydd gyda amser o 14:45.95 gan osod record Prydeinig ac Ewropeaidd. Fe gipiodd yr efydd unwaith eto ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2005. Enillodd yr aur yn y ras 1,500 metr a'r efydd yn y 400 metr tra'n cynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2006 yn Melbourne.
Fe gynrychiolodd Davies wledydd Prydain yng Ngemau Olympaidd 2004, 2008 a 2012, yn y ras 1500 km.[2] Cafodd ei dderbyn i nofio'r Marathon 10 km Olympaidd ac yn Beijing daeth yn ail yn y gamp Olympaidd newydd. Yn fuan wedi gorffen y ras, roedd pryder am gyflwr Davies wrth i staff Cymorth Cyntaf ruthro i'w gludo ffwrdd am driniaeth feddygol. Fe ddywedodd Davies ei fod rhoi ei oll yn rhan olaf y ras am ei fod mor benderfynol o ennill.[3]
Mae David Davies wedi dod yn eicon nofio ym Mhrydain ac Awstralia. Noddir ef gan Speedo.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Proffil Nofio Prydeinig Archifwyd 2008-09-26 yn y Peiriant Wayback
- Proffil Cymdeithas Olympaidd Prydeinig Archifwyd 2010-12-04 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David Davies. BBC.
- ↑ David Davies profile at British Olympics Association.
- ↑ Lord, Craig. Swimmer David Davies wins silver medal for Britain , The Times, 21 Awst 2008. Cyrchwyd ar 1 Mai 2010.