Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gallienus

Oddi ar Wicipedia
Gallienus
Ganwydc. 218 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Bu farw268 Edit this on Wikidata
Mediolanum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, bardd, milwr Rhufeinig, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadValerian I Edit this on Wikidata
MamEgnatia Mariniana Edit this on Wikidata
PriodCornelia Salonina Edit this on Wikidata
PartnerPipara Edit this on Wikidata
PlantValerian II, Saloninus, Marinianus, Quintus Julius Gallienus Edit this on Wikidata
PerthnasauGalliena Edit this on Wikidata
LlinachValerian dynasty Edit this on Wikidata

Publius Licinis Egnatius Gallienus (c. 218268) oedd ymerawdwr Rhufain o 260 hyd 268, ar ôl bod yn gyd-ymerawdwr gyda’i dad Valerian I o 253 hyd 260. Daeth yn ymerawdwr ynghanol Argyfwng y Drydedd Ganrif, a bu’n fwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf o ymerodron y cyfnod hwn.

Yn 260 cymerwyd Valerian yn garcharor gan Sapor I, brenin Persia. Er i Gallienus glywed fod ei dad wedi ei ladd a’i flingo gan y Persiaid, ni chyhoeddodd hyn I’r boblogaeth am flwyddyn er mwyn cael amser I gryfhau ei safle.

Bathodd Gallienus lawer o arian yn ystod ei deyrnasiad, a defnyddid y darnau arian fel propaganda, yn dangos yr ymerawdwr yn fuddugoliaethus. Roedd gan Gallienus berthynas agos a’r athronydd neoplatoniadd Plotinus. Mae’n ymddangos I Plotinus awgrymu I’r ymerawdwr y posibilrwydd o greu cymuned athronyddol yn seiliedig ar ‘’Weriniaeth’’ Platon, ond oherwydd problemau niferus yr ymerodraeth yn y cyfnod hwn, ni wnaed yr arbrawf.

Ni lwyddodd Gallienus i ddal ei afael ar holl diriogaethau’r ymerodraeth. Bu llawer o ymladd yn y dwyrain ac yn 268 collodd Gallienus ran helaeth o Gâl pan gyhoeddodd y cadfridog Postumus ei hun yn ymerawdwr Ymerodraeth y Galiaid. Yn y brwydro yn erbyn Postumus daeth cadfridog arall, Claudius I’r amlwg ac enillodd ffyddlondeb y llengoedd.

Yr un flwyddyn ymosododd y Gothiaid ar dalaith Pannonia a bwrw ymlaen nes bygwth y brifddinas ei hun. Yr un pryd anrheithiodd yr Alemanni ogledd yr Eidal. Llwyddodd Gallienus I orchfygu’r Gothiaid mewn brwydr ym mis Ebrill 268, yna aeth tua’r gogledd i orchfygu’r Alemanni. Yna ymgyrchodd yn erbyn y Gothiaid eto, a’u gorchfygu ym mrwydr Naissus, gyda llawer o’r clod am y fuddugoliaeth yn ddyledus I’r cadfridog Aurelianus.

Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, cododd Aureolus, pennaeth y byddinoedd yn Iliria, mewn gwrthryfel. Ymosododd ar yr Eidal a chipiodd ddinas Milan. Cyrhaeddodd Gallienus yno gyda’i fyddin a gwarchae ar y ddinas, ond ynghanol y gwarchae llofruddiwyd ef. Yr oedd sôn bod Claudius ac Aurelianus a rhan yn y cynllwyn.

Yr oedd Gallienus yn llwyddiannus iawn ar faes y gad, ond ni fedrodd uno’r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad. Ar ddiwedd ei deyrnasiad yr oedd yr ymerodraeth de facto yn dair rhan, gan fod Ymerodraeth y Galiaid yn y gorllewin a thiriogaethau Zenobia yn Palmyra yn y dwyrain wedi dod yn rhydd o afael yr ymerawdwr.

Rhagflaenydd:
Valerian I
Ymerawdwr Rhufain
253260
Olynydd:
Claudius II