Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Bluey (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Bluey
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu animeiddiedig Edit this on Wikidata
CrëwrJoe Brumm Edit this on Wikidata
GwladAwstralia, y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Hydref 2018 Edit this on Wikidata
Genrecyfres deledu comig, cyfres deledu i blant Edit this on Wikidata
CymeriadauBluey Heeler, Bingo Heeler, Bandit Heeler, Chilli Heeler Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBluey, series 1, Bluey, series 2, Bluey, series 3 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithBrisbane Edit this on Wikidata
Hyd7 munud Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuLudo Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJoff Bush, David Barber Edit this on Wikidata
DosbarthyddDisney+ Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bluey.tv/ Edit this on Wikidata

Cyfres deledu animeiddiedig o Awstralia yw Bluey. Crëwyd y rhaglen gan Joe Brumm ac fe’i cynhyrchir gan gwmni Ludo Studio o Queensland . Fe’i comisiynwyd gan Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia a’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, gyda BBC Studios yn dal hawliau dosbarthu a marchnata byd-eang.

Mae’r sioe yn dilyn Bluey, ci bach Blue Heeler chwe blwydd oed anthropomorffig, sy'n byw gyda thad, Bandit; mam, Chilli; a'r chwaer iau, Bingo. Mae pob un o'r cymeriadau eraill yn cynrychioli brîd ci gwahanol. Mae themâu trosfwaol yn cynnwys y ffocws ar deulu, tyfu i fyny a diwylliant Awstralia (Lleolir y sioe yn Brisbane, Queensland).

Mae Bluey wedi cael sgoriau cyson uchel yn Awstralia ac yn rhyngwladol, ar deledu darlledu a gwasanaethau fideo ar alw. Mae'r sioe wedi ennill llawer o wobrau[1], ac wedi cael ei chanmol gan feirniaid teledu am ei darlunio o fywyd teuluol modern bob dydd, darluniau magu plant dyrchafol, peidio ag enwi'r actorion sy'n blant, ddefnyddiwyd a darluniau cadarnhaol o rianta, a cherddoriaeth.

Mae gan y sioe dair cyfres, y dechrau cyntaf yn 2018. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dub swyddogol Cymraeg yn bodoli, er bod y sioe ar gael mewn nifer o ieithoedd eraill, yn fwyaf nodedig y dub Saesneg gwreiddiol o Awstralia.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Y Cymro yn Awstralia sy'n dylunio cartŵn Bluey". BBC Cymru Fyw. 2023-03-28. Cyrchwyd 2023-07-12.