Bar Statws (gêm fideo)
Gwedd
Delwedd:Hud on the cat.jpg, PZL TS-11F Iskra (HUD).jpg, F-18 HUD gun symbology.jpeg, E60hud.JPG | |
Math | computer monitor, avionics, aircraft component |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bar Statws neu Declyn Arddangos Pen Sgrin, (Saesneg head-up display / HUD) yw'r dull y mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno'n weledol i'r chwaraewr gêm fideo fel rhan o ryngwyneb defnyddiwr y gêm.[1]
Er bod y wybodaeth a ddangosir ar HUD yn dibynnu'n fawr ar y gêm, mae llawer o nodweddion yn rhai mae chwaraewyr yn eu hadnabod ar draws nifer o gemau. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar y sgrin sefydlog fel eu bod yn aros yn weladwy yn ystod gydol y gêm. Mae'r nodweddion cyffredin yn cynnwys:
- Iechyd / bywydau
- Amser sydd ar ôl i gyflawni tasg
- Arfau a nifer o ergydion sydd gan yr arf
- Galluoedd arbennig sydd dim ond yn para dros gyfnod
- Bwydlenni - Bwydlenni i adael, newid opsiynau, dileu ffeiliau, newid gosodiadau, ac ati.
- Dilyniant gêm - sgôr, arian, lap, neu lefel bresennol y chwaraewr.
- Map bach - map bach o'r ardal a all weithredu fel radar, sy'n dangos y tir, cynghreiriaid a / neu elynion, lleoliadau fel tai diogel a siopau, strydoedd, ac ati.
- Cyflymder / Tachomedr - a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o gemau sy'n cynnwys cerbydau y gellir eu gyrru.
- Gwybodaeth sy'n sensitif i'r cyd-destun - a ddangosir yn unig gan ei bod yn bwysig, fel negeseuon tiwtorial, galluoedd unigryw unwaith ac am byth, ac isdeitlau lleferydd.
- Stealthomedr – sy'n dangos os yw chwaraewr yn rhy bell neu'n rhy agos i darged
- Cwmpawd tasgau – sy'n dangos pa dasgau sydd ar gael ac ymhle i'w cyrchu.
- Perygl - pa mor agos yw elynion, pa mor frwd yw'r heddlu i ddal troseddwr ac ati
A nodweddion cyffelyb.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ HUD - Heads Up Display adalwyd 27 Gorffennaf 2018