Afon Ariège
Gwedd
Math | afon, gold river |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Haute-Garonne, Pyrénées-Orientales, Ariège |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.5192°N 1.7392°E, 43.5172°N 1.41°E |
Tarddiad | Porta |
Aber | Afon Garonne |
Llednentydd | Hers-Vif, Vicdessos, Aïse, Lèze, Aston, Arget (Ariège), Courbière, Crieu, Lauze, Oriège, Alses, Arnave, Aure, Estrique, Galage, Jade, Lansonne, Lantine, Mouillonne, Rieutort, Ruisseau de Calers, Ruisseau de Carol, Ruisseau de Cassignol, Ruisseau de Dalou, Ruisseau de Lavail, Ruisseau du Haumont, Ruisseau du Najar, Saurat, Sios |
Dalgylch | 4,135 ±1 cilometr sgwâr |
Hyd | 163.2 cilometr |
Arllwysiad | 76 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn ne Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Garonne yw Afon Ariège (Ocsitaneg: Arièja). Mae'n 163.5 km o hyd. Rhydd ei henw i département Ariège.
Mae'n tarddu yn y Pyreneau, ar uchder o 2,400 m, gan lifo o'r lac Noir yng nghwm Font-Nègre, ger y ffin rhwng Andorra a département Pyrénées-Orientales yn Ffrainc. Mae'n llifo i mewn i afon Garonne i'r de o ddinas Toulouse, gerllaw Portet sur Garonne, yn département Haute-Garonne. Mae'n llifo trwy Ax-les-Thermes, Tarascon-sur-Ariège, Foix, Saint-Jean-de-Verges, Varilhes, Pamiers, Saverdun, Cintegabelle, Auterive a Venerque.