Nothing Special   »   [go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Susa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hu:Szúza
B dolen
Llinell 2: Llinell 2:
[[Image:Sphinx Darius Louvre.jpg|thumb|200px|[[Sffincs]] adeiniog o balas [[Darius Fawr]] yn Susa.]]
[[Image:Sphinx Darius Louvre.jpg|thumb|200px|[[Sffincs]] adeiniog o balas [[Darius Fawr]] yn Susa.]]


Hen ddinas yn yr hyn sy'n awr yn [[Iran]] oedd '''Susa''' ([[Hebraeg]] '''שושן''', '''Shushan'''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Σοῦσα, '''Sousa'''; [[Lladin]] '''Susa'''). Ar wahanol adegau, bu'n brifddinas yr [[Elam]]itaid, [[Ymerodraeth Persia]] ac ymerodraeth [[Parthia]]. Saif tua 250 km (150 milltir) i'r dwyrain o [[Afon Tigris]]; heddiw saif tref [[Shush, Iran|Shush]] ar y safle.
Hen ddinas yn yr hyn sy'n awr yn [[Iran]] oedd '''Susa''' ([[Hebraeg]] '''שושן''', '''Shushan'''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Σοῦσα, '''Sousa'''; [[Lladin]] '''Susa'''). Ar wahanol adegau, bu'n brifddinas yr [[Elam]]itaid, [[Ymerodraeth Persia]] ac ymerodraeth [[Parthia]]. Saif tua 250 km (150 milltir) i'r dwyrain o [[Afon Tigris]] yn nhalaith [[Khūzestān]]; heddiw saif tref [[Shush, Iran|Shush]] ar y safle.


Roedd Susa yn un o ddinasoedd hynaf y byd, efallai yn mynd yn ôl i tua 4200 CC. Daeth yn brifddinas Ymerodraeth Elam, ac mae'n ymddangos yng ngofnodion hynaf y [[Sumer]]iaid. Ceir nifer o gyfeiriadau at Susa yn [[y Beibl]] hefyd; yma y lleolir digwyddiadau [[Llyfr Esther]], a cheir beddrod yma y dywedir ei fod yn fedd [[Daniel]].
Roedd Susa yn un o ddinasoedd hynaf y byd, efallai yn mynd yn ôl i tua 4200 CC. Daeth yn brifddinas Ymerodraeth Elam, ac mae'n ymddangos yng ngofnodion hynaf y [[Sumer]]iaid. Ceir nifer o gyfeiriadau at Susa yn [[y Beibl]] hefyd; yma y lleolir digwyddiadau [[Llyfr Esther]], a cheir beddrod yma y dywedir ei fod yn fedd [[Daniel]].

Fersiwn yn ôl 23:13, 24 Ebrill 2010

Am y dref yn yr Eidal, gweler Susa (Yr Eidal).
Sffincs adeiniog o balas Darius Fawr yn Susa.

Hen ddinas yn yr hyn sy'n awr yn Iran oedd Susa (Hebraeg שושן, Shushan; Groeg: Σοῦσα, Sousa; Lladin Susa). Ar wahanol adegau, bu'n brifddinas yr Elamitaid, Ymerodraeth Persia ac ymerodraeth Parthia. Saif tua 250 km (150 milltir) i'r dwyrain o Afon Tigris yn nhalaith Khūzestān; heddiw saif tref Shush ar y safle.

Roedd Susa yn un o ddinasoedd hynaf y byd, efallai yn mynd yn ôl i tua 4200 CC. Daeth yn brifddinas Ymerodraeth Elam, ac mae'n ymddangos yng ngofnodion hynaf y Sumeriaid. Ceir nifer o gyfeiriadau at Susa yn y Beibl hefyd; yma y lleolir digwyddiadau Llyfr Esther, a cheir beddrod yma y dywedir ei fod yn fedd Daniel.

Tua 2330 CC, ymgorfforodd Sargon Fawr Susa yn yr Ymerodraeth Acadaidd, ond erbyn tua 2004 CC, roedd eto yn brifddinas yr Elamitiaid. Yn 647 CC, dinistriwyd y ddinas gan frenin Assyria, Assurbanipal, ac yn 538 CC cipiwyd hi gan y Persiaid dan Cyrus Fawr. Dan fab Cyrus, Cambyses II, symudwyd prifddinas yr ymerodraeth o Pasargadae i Susa.

Yn 331 CC, cipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr, ac wedi marwolaeth Alecsander, daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Seleucaidd dan yr enw Seleukeia. Pan enillodd Parthia ei hannibyniaeth, daeth Susa yn un o'r ddwy brifddinas, gyda Ctesiphon. Cipiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Rhufeinig Trajan yn 116. Dinistriwyd y ddinas gan fyddinoedd Islam yn 638, ac eto gan y Mongoliaid yn 1218. Wedi hynny, gadawyd hi i adfeilio.