James Lovelock: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici365 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person| fetchwikidata=ALL| | dateformat = dmy | image = James Lovelock, 2005 (cropped).jpg | caption = James Lovelock yn 2005 |
{{Person| fetchwikidata=ALL| | dateformat = dmy | image = James Lovelock, 2005 (cropped).jpg | caption = James Lovelock yn 2005}} |
||
[[Gwyddonydd]], [[amgylcheddaeth|amgylcheddwr]], a [[dyfodoleg|dyfodolwr]] o [[ |
[[Gwyddonydd]], [[amgylcheddaeth|amgylcheddwr]], a [[dyfodoleg|dyfodolwr]] o [[Lloegr|Loegr]] oedd '''James Ephraim Lovelock''' ([[26 Gorffennaf]] [[1919]] – [[26 Gorffennaf]] [[2022]]) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaeth "Gaia", sydd yn tybio bod holl fywyd [[y Ddaear]] yn rhan o system sydd yn rheoli prosesau arwynebol ac atmosfferig y blaned. [[Cemegydd]] a [[meddyg]] ydoedd wrth ei addysg, ac er iddo ddal sawl swydd athro fe ddatblygodd ei brif syniadau yn annibynnol, y tu allan i'r byd academaidd. Enillodd enw fel awdur gwyddonol poblogaidd ac [[ecoleg]]ydd o nod. Roedd hefyd yn [[dyfeisiwr|ddyfeisiwr]] toreithiog, a derbyniodd ryw 50 o [[patent|batentau]]. |
||
Ganed yn Letchworth Garden City, [[Swydd Hertford]], a chafodd ei fagu yn ardal [[Brixton]] yn ne [[Llundain]]. Astudiodd gemeg ym [[Prifysgol Manceinion|Mhrifysgol Manceinion]] a derbyniodd ei radd baglor yno ym 1941. Gweithiodd i'r Cyngor Ymchwil Meddygol yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (NIMR), yn Llundain, am ugain mlynedd.<ref>{{eicon en}} Pearce Wright a Tim Radford, "[https://www.theguardian.com/environment/2022/jul/27/james-lovelock-obituary James Lovelock obituary]", ''[[The Guardian]]'' (27 Gorffennaf 2022).</ref> Gweithiodd hefyd i Uned Ymchwil yr [[Annwyd]] yn Ysbyty Harvard, [[Caersallog]], o 1946 i 1951. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Ysgol Glanweithdra a Meddygaeth Drofannol Llundain ym 1948. Gwobrwywyd iddo gymrodoriaeth deithio o [[Sefydliad Rockefeller]] i weithio ar gryo-gadwedigaeth ym [[Prifysgol Harvard|Mhrifysgol Harvard]] o 1954 i 1955, ac ar gromatograffeg nwyon ym [[Prifysgol Yale|Mhrifysgol Yale]] o 1958 i 1959. Ym 1957, tra'n gweithio gyda'r biocemegydd A. J. P. Martin yn NIMR, dyfeisiodd Lovelock y canfodydd dal electronau (ECD).<ref name=Britannica/> |
Ganed yn Letchworth Garden City, [[Swydd Hertford]], a chafodd ei fagu yn ardal [[Brixton]] yn ne [[Llundain]]. Astudiodd gemeg ym [[Prifysgol Manceinion|Mhrifysgol Manceinion]] a derbyniodd ei radd baglor yno ym 1941. Gweithiodd i'r Cyngor Ymchwil Meddygol yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (NIMR), yn Llundain, am ugain mlynedd.<ref>{{eicon en}} Pearce Wright a Tim Radford, "[https://www.theguardian.com/environment/2022/jul/27/james-lovelock-obituary James Lovelock obituary]", ''[[The Guardian]]'' (27 Gorffennaf 2022).</ref> Gweithiodd hefyd i Uned Ymchwil yr [[Annwyd]] yn Ysbyty Harvard, [[Caersallog]], o 1946 i 1951. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Ysgol Glanweithdra a Meddygaeth Drofannol Llundain ym 1948. Gwobrwywyd iddo gymrodoriaeth deithio o [[Sefydliad Rockefeller]] i weithio ar gryo-gadwedigaeth ym [[Prifysgol Harvard|Mhrifysgol Harvard]] o 1954 i 1955, ac ar gromatograffeg nwyon ym [[Prifysgol Yale|Mhrifysgol Yale]] o 1958 i 1959. Ym 1957, tra'n gweithio gyda'r biocemegydd A. J. P. Martin yn NIMR, dyfeisiodd Lovelock y canfodydd dal electronau (ECD).<ref name=Britannica/> |
||
Llinell 14: | Llinell 15: | ||
{{DEFAULTSORT:Lovelock, James}} |
{{DEFAULTSORT:Lovelock, James}} |
||
[[Categori: |
[[Categori:Genedigaethau 1919]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Marwolaethau 2022]] |
||
[[Categori:Academyddion yr 20fed ganrif o Loegr]] |
|||
⚫ | |||
[[Categori:Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Manceinion]] |
[[Categori:Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Manceinion]] |
||
[[Categori:Dyfeiswyr |
[[Categori:Dyfeiswyr o Loegr]] |
||
[[Categori:Dyfodolwyr]] |
[[Categori:Dyfodolwyr]] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Gwneuthurwyr offer gwyddonol]] |
[[Categori:Gwneuthurwyr offer gwyddonol]] |
||
[[Categori:Gwyddonwyr |
[[Categori:Gwyddonwyr yr 20fed ganrif o Loegr]] |
||
[[Categori:Gwyddonwyr |
[[Categori:Gwyddonwyr yr 21ain ganrif o Loegr]] |
||
[[Categori:Llenorion ffeithiol |
[[Categori:Llenorion ffeithiol yr 20fed ganrif o Loegr]] |
||
[[Categori:Llenorion ffeithiol |
[[Categori:Llenorion ffeithiol yr 21ain ganrif o Loegr]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Meddygon yr 20fed ganrif o Loegr]] |
||
[[Categori:Meddygon |
[[Categori:Meddygon yr 21ain ganrif o Loegr]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Pobl a aned yn Swydd Hertford]] |
||
[[Categori:Pobl o Brixton]] |
[[Categori:Pobl o Brixton]] |
||
[[Categori:Pobl |
[[Categori:Pobl fu farw yn Dorset]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Pobl ganmlwydd oed]] |
||
[[Categori:Ysgolheigion Saesneg o Loegr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 07:37, 29 Gorffennaf 2024
James Lovelock | |
---|---|
James Lovelock yn 2005 | |
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1919 Letchworth |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2022 o complication Abbotsbury |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | biolegydd, cemegydd, academydd, mythograffydd, ecolegydd, amgylcheddwr, awdur ffuglen wyddonol, biocemegydd, futurist, independent scientist, hunangofiannydd, gwyddonydd |
Adnabyddus am | electron capture detector, Gaia hypothesis |
Tad | Tom Arthur Lovelock |
Mam | Nell March |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Dr A. H. Heineken Prize for Environmental Sciences, Volvo Environment Prize, Blue Planet Prize, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Fonseca, Doethor Anrhydeddus o Brifysgol Caint, doethur anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Medal Wollaston, Gwobr Ryngwladol Nonino, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Edinburgh Medal |
Gwefan | http://www.jameslovelock.org/ |
Gwyddonydd, amgylcheddwr, a dyfodolwr o Loegr oedd James Ephraim Lovelock (26 Gorffennaf 1919 – 26 Gorffennaf 2022) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaeth "Gaia", sydd yn tybio bod holl fywyd y Ddaear yn rhan o system sydd yn rheoli prosesau arwynebol ac atmosfferig y blaned. Cemegydd a meddyg ydoedd wrth ei addysg, ac er iddo ddal sawl swydd athro fe ddatblygodd ei brif syniadau yn annibynnol, y tu allan i'r byd academaidd. Enillodd enw fel awdur gwyddonol poblogaidd ac ecolegydd o nod. Roedd hefyd yn ddyfeisiwr toreithiog, a derbyniodd ryw 50 o batentau.
Ganed yn Letchworth Garden City, Swydd Hertford, a chafodd ei fagu yn ardal Brixton yn ne Llundain. Astudiodd gemeg ym Mhrifysgol Manceinion a derbyniodd ei radd baglor yno ym 1941. Gweithiodd i'r Cyngor Ymchwil Meddygol yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (NIMR), yn Llundain, am ugain mlynedd.[1] Gweithiodd hefyd i Uned Ymchwil yr Annwyd yn Ysbyty Harvard, Caersallog, o 1946 i 1951. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Ysgol Glanweithdra a Meddygaeth Drofannol Llundain ym 1948. Gwobrwywyd iddo gymrodoriaeth deithio o Sefydliad Rockefeller i weithio ar gryo-gadwedigaeth ym Mhrifysgol Harvard o 1954 i 1955, ac ar gromatograffeg nwyon ym Mhrifysgol Yale o 1958 i 1959. Ym 1957, tra'n gweithio gyda'r biocemegydd A. J. P. Martin yn NIMR, dyfeisiodd Lovelock y canfodydd dal electronau (ECD).[2]
Penodwyd Lovelock yn athro yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Baylor, Houston, Texas, o 1961 i 1964. Yn ystod ei gyfnod yn Unol Daleithiau America, gweithiodd yn Labordy Jet-Yriant NASA yn Pasadena, Califfornia, i ddatblygu offer gwyddonol ar gyfer chwiliedyddion gofod, gan gynnwys y rhaglen Viking. Cyfrannodd Lovelock hefyd at ymdrechion MI5 i ddatblygu offer olrhain. Wedi iddo adael Prifysgol Baylor, penodwyd Lovelock yn athro gwadd gan brifysgolion Houston (1964–74) a Reading (1964–89).[2]
Cyd-ddatblygodd Lovelock ddamcaniaeth "Gaia" gyda'r biolegydd Lynn Margulis yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au. Cyhoeddodd y gyfrol Gaia: A New Look at Life on Earth ym 1979. Byddai'r syniad o'r Ddaear fel uwchorganeb yn hynod o ddadleuol, ond yn raddol enillodd "Gaia" ei plwyf yn y byd academaidd. Ysgrifennodd Lovelock ragor o lyfrau yn ehangu ar ei ddamcaniaeth, gan gynnwys The Ages of Gaia (1988) a Gaia: The Practical Science of Planetary Medicine (1991).
Bu farw ar ei ben-blwydd yn 103 oed yn ei gartref yn Abbotsbury, Dorset.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Pearce Wright a Tim Radford, "James Lovelock obituary", The Guardian (27 Gorffennaf 2022).
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) James Lovelock. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2022.
- ↑ (Saesneg) Helena Horton, "James Lovelock, creator of Gaia hypothesis, dies on 103rd birthday", The Guardian (27 Gorffennaf 2022).
- Genedigaethau 1919
- Marwolaethau 2022
- Academyddion yr 20fed ganrif o Loegr
- Cemegwyr o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Manceinion
- Dyfeiswyr o Loegr
- Dyfodolwyr
- Gwneuthurwyr offer gwyddonol
- Gwyddonwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Gwyddonwyr yr 21ain ganrif o Loegr
- Llenorion ffeithiol yr 20fed ganrif o Loegr
- Llenorion ffeithiol yr 21ain ganrif o Loegr
- Meddygon yr 20fed ganrif o Loegr
- Meddygon yr 21ain ganrif o Loegr
- Pobl a aned yn Swydd Hertford
- Pobl o Brixton
- Pobl fu farw yn Dorset
- Pobl ganmlwydd oed
- Ysgolheigion Saesneg o Loegr